Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (Dydd Llun 11 Medi), lansiwyd canllaw newydd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru i rieni sydd wedi mabwysiadu plant ar sut i weithio gydag ysgolion er budd addysg eu plentyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae wedi’i greu gan Adoption UK Cymru, mae ‘Cael Pethau’n Iawn i Bob Plentyn: Canllaw i rieni ar weithio gydag ysgolion’ ac mae’n nodi’r prif bethau y dylai rhieni sydd wedi mabwysiadu plant edrych amdanynt wrth ddewis ysgol, sut i weithio gyda staff yr ysgol ac yn rhoi cyngor ar su y gall problemau ymlyniad effeithio ar ddatblygiad plentyn drwy’r system addysg.

Mae’r canllaw, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar argymhellion gan arbenigwyr cydnabyddedig rhyngwladol ar drawma ac ymlyniad.

Ysgrifennwyd y canllaw gan Ann Bell, sydd wedi mabwysiadu ei hun ac sy’n Gyfarwyddwr Adoption UK yng Nghymru. Mae’r cynnwys yn seiliedig ar gyfraniadau gan rieni eraill sydd wedi mabwysiadu, plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu mabwysiadu, athrawon a’r rhai sy’n gyfrifol am blant sy’n derbyn gofal a phlant wedi’u mabwysiadu mewn awdurdodau lleol.

Meddai’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

“Gwyddom fod plant sydd wedi’u mabwysiadu angen cymorth ychwanegol yn aml gyda’u haddysg ac mae’r canllaw hwn yn ceisio helpu rhieni i wneud y dewisiadau cywir ar gyfer eu plentyn wrth iddynt fynd drwy’r system ysgol. Dim ond os ydynt yn teimlo’n ddiogel y bydd plant yn gallud ysgu ac yn aml nid yw hynny’n dod yn naturiol i blant sydd wedi cael profiadau gwael gydag oedolion yn ystod eu blynyddoedd cynnar.

“Rydym am sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu mabwysiadu yn cael yr un cyfle â phlant eraill i gyflawni eu potensial llawn mewn bywyd.”

Meddai’r Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant:

“Mae rhieni sydd wedi mabwysiadu’n darparu’r amgylchedd teuluol sefydlog y mae plant ei angen wrth eu cefnogi drwy eu haddysg.

“Diben y canllaw hwn yw rhoi cyngor ychwanegol i’r rhieni hynny i’w helpu i gael gafael ar y cymorth priodol yn yr ysgol pan maen nhw angen hynny. Heb y cymorth hwnnw, bydd plant a phobl ifanc yn parhau i wynebu rhwystrau o ran cyflawni eu gwir botensial.”

Meddai awdur y canllaw, Ann Bell:

“Fel rhieni sydd wedi mabwysiadu rydym yn darparu cartrefi sefydlog ac amgylcheddau sy’n meithrin i rai o’r plant a’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ac er bod rhianta mewn amgylchiadau o’r fath yn rhoi boddhad mawr mae yn cyflwyno heriau anodd hefyd, yn enwedig pan mae ein plant yn dechrau yn y system addysg.

“Dwi wedi ysgrifennu’r canllaw hwn i roi’r sicrwydd a’r arweiniad mae rhieni ei angen i’w helpu i ddewis yr ysgol briodol i’w plant, i ofyn y cwestiynau priodol, ac i gael y cymorth a’r gefnogaeth briodol pan fyddan nhw eu hangen fwyaf. Rhieni sydd wedi mabwysiadu yw eiriolwyr mwyaf grymus eu plant, a gobeithio y bydd y canllaw llawn gwybodaeth hwn yn eu helpu i lwyddo.”