Mae dull newydd o ddatblygu, arfarnu a gwerthuso ymyraethau trafnidiaeth yng Nghymru sy'n cefnogi lles pobl a'r blaned yn well wedi'i lansio gan Lywodraeth Cymru.
Bydd Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) 2017 yn adeiladu ar egwyddorion WelTAG 2008 drwy alluogi'r sector cyhoeddus i ddarparu atebion ym maes trafnidiaeth sy'n garbon isel neu'n ddi-garbon, yn lliniaru problemau llygredd, yn sbarduno'r economi werdd ac yn gwneud pobl, nwyddau a gwasanaethau yn symudol mewn ffyrdd sydd ddim yn rhy ddrud.
Fel a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae egwyddor datblygu cynaliadwy yn rhan hanfodol o sut y mae cyrff cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus bellach yn gweithredu.
Mae'n rhaid i holl ymyraethau trafnidiaeth yng Nghymru bellach ystyried anghenion cenedlaethau'r dyfodol yn ogystal â'r presennol, gan gadw at yr egwyddorion canlynol:
- edrych ar yr hirdymor fel nad ydym yn amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i fodloni eu hanghenion eu hunain;
- deall achosion craidd y problemau i'w hatal rhag digwydd eto neu waethygu;
- defnyddio dull integredig o weithio fel y gall cyrff cyhoeddus edrych ar yr holl nodau llesiant wrth benderfynu ar eu amcanion llesiant eu hunain;
- cynnwys amrywiaeth y boblogaeth yn y penderfyniadau sy'n cael effaith arnynt; a
- gweithio gydag eraill mewn ffordd gydweithredol i ddod o hyd i atebion cynaliadwy ar y cyd.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:
"Wedi'i gadarnhau gan y cysyniad o ddatblygu cynaliadwy, mae'n rhaid i gynllunio trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol nid yn unig oresgyn ei duedd economaidd traddodiadol, ond hefyd fabwysiadu safbwynt eang, holistaidd. Mae'n rhaid i'r pwyslais economaidd sy'n tanlinellu'r angen am ddatblygiadau pellach i'r seilwaith gael eu hystyried mewn perthynas â dirywiad amgylcheddol, yr effaith ar yr amgylchedd a thueddiadau o fewn y gymdeithas.
"Bu'n bleser mawr cydweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i sicrhau bod WelTAG 2017 yn cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y gellir datblygu cynlluniau trafnidiaeth gan ddefnyddio'r egwyddor datblygu cynaliadwy i sicrhau eu bod yn cyfrannu cymaint â phosib at genedlaethau'r dyfodol."
Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru:
"Dwi'n croesawu penderfyniad y Llywodraeth i edrych eto ar eu canllawiau WelTAG er mwyn adlewyrchu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'n gam sylweddol yn y cyfeiriad iawn.
"Mae'n rhaid defnyddio hyn bellach i gefnogi'r dull o weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol sy'n troi'r trafodaethau tuag at gynllunio trafnidiaeth gynaliadwy yng Nghymru, a symud y pwyslais tuag at ddull mwy arloesol a hirdymor.
"Mae'n rhaid i system drafnidiaeth sy'n addas at y dyfodol fod yn garbon isel, ddefnyddio ynni'n effeithiol, llygru llai a bod yn gadarn wrth i'r hinsawdd newid. Mae'n rhaid iddi hefyd roi pwyslais ar bobl, gan gynnwys cynnig cyfleoedd ar gyfer teithio llesol a dewisiadau cynaliadwy o ran sut y maent yn byw ac yn teithio.
"Dylai canllawiau newydd WelTAG, gan gydweithio â Fframwaith Cenedlaethau'r Dyfodol, alluogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru i ryddhau y manteision niferus sy'n cael eu cynnig gan y Ddeddf ac mae'n gam pwysig tuag at gyflawni holl agweddau llesiant ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.