Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi cyhoeddi (dydd Llun 31 Hydref) bod arolwg cenedlaethol newydd yn cael ei lansio heddiw i gael barn athrawon a staff cymorth ar hyd a lled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Arolwg Cenedlaethol cyntaf o'r Gweithlu Addysg, a fydd yn cael ei gynnal gan Gyngor y Gweithlu Addysg, yn cynnig cyfle unigryw i'r proffesiwn roi eu barn am amrywiaeth o faterion sy'n effeithio arnynt.

Bydd yr arolwg yn cynnwys athrawon a gweithwyr cymorth mewn ysgolion ac mewn lleoliadau addysg bellach, gan gynnwys gweithwyr cyflenwi.

Bydd y cwestiynau yn yr arolwg yn cynnwys y themâu allweddol canlynol:

  • Bod yn athro
  • Datblygiad proffesiynol
  • Rheoli perfformiad
  • Llwyth gwaith
  • Y cwricwlwm ac asesu
  • Y Gymraeg.

Bydd y canlyniadau yn helpu i fod yn sail i bolisïau Llywodraeth Cymru ac yn sylfaen ar gyfer arolygon yn y dyfodol.

Dywedodd Kirsty Williams: 

“Rwy am weithio'n agos â'r proffesiwn i helpu athrawon i fod cystal ag y gallan nhw fod, gan godi statws y proffesiwn yn gyffredinol. Heb athrawon brwd, sy’n cael eu gwerthfawrogi ac sydd â’r sgiliau angenrheidiol, allwn ni ddim cynnig i'n dysgwyr y cyfleoedd addysgol y maen nhw'n eu haeddu.

“Rwy'n falch i weithredu'r ymrwymiad maniffesto hwn, achos rwy o'r farn ei bod yn hanfodol inni wrando ar y proffesiwn a mesur eu barn mewn perthynas â nifer o feysydd allweddol.  Bydd yr arolwg peilot hwn yn cynnig ffynhonnell defnyddiol o wybodaeth ar gyfer ein cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg. Mae'r arolwg yn dangos y gwerth a roddwn i'n gweithlu addysg a'n hymrwymiad i sicrhau bod y gweithlu hwnnw’n ganolog i ddatblygiadau ar faterion sy'n effeithio arnyn nhw.”

Dywedodd Angela Jardine, Cadeirydd Cyngor y Gweithlu Addysg:

“Dyma'r tro cyntaf i'r gweithlu addysg yng Nghymru gael y cyfle i ddweud eu dweud am bopeth sy'n effeithio arnyn nhw – o lwyth gwaith i reoli perfformiad.

“Mae'n gyfle gwych i staff ar hyd a lled y wlad leisio eu barn gyda'r bwriad o ddylanwadu ar bolisi addysg y dyfodol. Byddwn ni’n ystyried y canlyniadau yn ofalus, gan obeithio eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2017.”