Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (20 Ionawr), cafodd ap i helpu pobl i adfer eu hiechyd yn dilyn COVID ei lansio fel rhan o gymorth ehangach a gynigir i unigolion sy’n byw gydag effeithiau hirdymor wedi iddynt gael y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r ap dwyieithog, y cyntaf o’i fath, wedi cael ei ddatblygu gan Grŵp Gweithredu Iechyd Anadlol Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Cafodd ei gynllunio fel adnodd pwrpasol a hyfforddwr personol i helpu unigolion ar eu taith i adfer eu hiechyd. 

Gyda mwy na 100 o fideos a dolenni at gyngor, bydd defnyddwyr yr ap yn gallu cofnodi eu symptomau, cadw ar drywydd eu cynnydd a dysgu sut i reoli eu cyflwr gartref gyda chymorth. Mae’n cynnwys cyngor gan therapyddion, seicolegwyr, deietegwyr ac ymgynghorwyr. 

Un agwedd yn unig ar ymdrech genedlaethol ehangach ar gyfer cefnogi unigolion sydd â syndrom ôl-COVID-19 yw’r ap. Mae’r ymdrech hon yn cynnwys cefnogi gweithwyr proffesiynol i adnabod y symptomau, gan gyfeirio unigolion at ffynonellau cymorth a darparu llwybr clir i unigolion ar eu taith drwy’r system gofal iechyd. 

Mae syndrom ôl-COVID-19, sydd hefyd yn cael ei alw yn COVID hir, wedi cael ei ddiffinio fel arwyddion a symptomau sy’n datblygu pan fydd unigolyn wedi’i heintio, neu wedi hynny, sy’n gyson â’r coronafeirws. Cyn i’r cyflwr gael ei gydnabod, rhaid hefyd fod yr arwyddion a’r symptomau hyn yn para am fwy na 12 wythnos, ac nad oes modd eu hegluro gydag unrhyw ddiagnosis arall.  

Disgwylir y dylai unigolion allu cael gafael ar y rhan fwyaf o’r cymorth sydd eu hangen arnynt yn agos at eu cartref, a dim ond os bydd angen gwasanaethau mwy arbenigol sy’n rhaid eu darparu mewn lleoliad ysbyty acíwt y dylent orfod teithio.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:

Rydyn ni’n dal i ddysgu am y feirws ond amcangyfrifir bod tua 1 o bob 10 o unigolion sydd wedi cael y coronafeirws yn dioddef rhai symptomau hirdymor. Mae’r ap hwn, sef y cyntaf o’i fath, yn cael ei lansio i dawelu meddyliau’r unigolion hynny fod cymorth ar gael iddyn nhw ac nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. 

Mae’r ap hwn yn perthyn i ymdrech ehangach ar lefel genedlaethol sydd wedi cael ei rhoi ar waith i adnabod yr unigolion hynny sydd, fisoedd yn ddiweddarach, yn dal i wynebu amrywiol anawsterau gyda’r galon, yn niwrolegol neu’n seicolegol. 

Gall unrhyw un lawrlwytho’r ap ond rydyn ni hefyd yn gofyn i weithwyr proffesiynol ei argymell i’w cleifion er mwyn i’w gofal allu parhau gartref am gyfnod eto ar ôl i’w hapwyntiad ddirwyn i ben.

Meddygon teulu sydd yn y sefyllfa orau i gyfeirio eu cleifion at y cymorth priodol, cynnal profion a chwilio am unrhyw symptomau y mae modd eu trin ac atgyfeirio cleifion at ymgynghorwyr arbenigol yn ôl yr angen. Bydd cymorth ar gael i’r rheini sydd heb ffôn clyfar hefyd felly.

Dywedodd Dr Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu llunio’r ap hwn ar gyfer pobl Cymru. Mae’r ap yn cynnig amrywiaeth eang o gyngor clinigol ac mae’n caniatáu ichi gefnogi eich hunan – gallwch osod nodau, dilyn trywydd eich cynnydd a monitro eich symptomau dros gyfnod o amser.  

Mae’r mwyafrif helaeth o unigolion yn adfer eu hiechyd yn llawn yn gyflym. Ond rydyn ni wedi gweld, yn achos rhai unigolion, ei fod yn gallu cymryd tri mis neu ragor hyd yn oed i’r symptomau setlo.

Mae rôl y meddyg teulu yn gwbl hanfodol i sicrhau bod unrhyw symptomau y gellir eu trin yn feddygol yn cael eu rheoli’n briodol.

Gall eich meddyg teulu sicrhau eich bod yn cael archwiliad ac yn cael gweld ymgynghorwyr arbenigol pan fo angen. Gallan nhw hefyd helpu i’ch tywys ar eich taith i adfer eich iechyd sydd yn aml iawn yn galw am rywfaint o gymorth adsefydlu yn achos y rhan fwyaf o unigolion. Dyna’r union reswm dros ddatblygu’r ap hwn i helpu unigolion gyda’u hadferiad ar ôl COVID.

Ffoniwch 999 bob amser os oes gennych unrhyw symptomau sy’n peryglu bywyd neu cysylltwch â gwasanaeth coronafeirws ar-lein GIG Cymru 111 neu eich meddyg teulu os na fyddwch yn teimlo bod eich symptomau’n gwella neu os oes arnoch angen ragor o gyngor.

Chwiliwch am 'covidrecovery' ar siopau apiau Apple a GooglePlay.