Mae’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, wedi lansio ail gam cronfa Arloesi i Arbed Llywodraeth Cymru, sy'n werth £5 miliwn.
Mae modd i sefydliadau ymgeisio am grantiau sy'n werth hyd at £15,000 i brofi syniad a allai wella gwasanaethau i ddinasyddion a gwneud arbedion. Yn ystod y cam ymchwil a datblygu, bydd y prosiectau'n cael cymorth gan sefydliad arloesi’r Deyrnas Unedig (Nesta) a Phrifysgol Caerdydd (drwy drefniant y Lab) ynghyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Yna, bydd cyfle i wneud cais am fenthyciad er mwyn rhoi'r syniad ar waith.
Bydd hefyd modd i'r sefydliadau sy'n cyflwyno'r cynigion fanteisio ar adnoddau a phrofiad Nesta a Phrifysgol Caerdydd er mwyn ehangu cwmpas eu prosiectau. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ceisiadau yw 16 Gorffennaf 2018.
Wrth lansio'r ail gylch cyllido, dywedodd Yr Ysgrifennyd Cyllid ei fod am barhau â'r momentwm a datblygu ar y syniadau a'r cynigion arloesol a gafodd eu cyflwyno y llynedd.
Dywedodd Mark Drakeford:
"Mae pob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru yn gymwys i ymgeisio am gyllid Arloesi i Arbed. Y llynedd, cafodd amrywiaeth eang o gynigion eu cyflwyno, o edrych ar effeithiolrwydd presgripsiynu cymdeithasol i ystyried ffyrdd newydd o gynorthwyo cymunedau sydd dan fygythiad oherwydd llifogydd arfordirol a dirywiad hirdymor.
“Rydyn ni'n gobeithio gweld amrywiaeth eang o gynigion yn cael eu cyflwyno eto eleni a fydd yn cynhyrchu arbedion i ryddhau arian parod i’w ailfuddsoddi mewn gwasanaethau er mwyn gwella'r canlyniadau i bobl, gan gynnwys ansawdd eu bywyd."
Dywedodd Pennaeth Rhaglenni y Lab, Rob Ashelford:
"Mae'n bwysicach nag erioed rhoi'r amser a'r gofod i bobl arbrofi â syniadau newydd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae Arloesi i Arbed yn helpu sefydliadau i brofi, gwerthuso a chynnal prosiectau sydd â'r potensial i wella gwasanaethau a gwneud arbedion. Rydyn ni'n falch o gynnig cyfle newydd i gyflwyno cais i’r rhaglen a chefnogi mwy o brosiectau arloesol yng Nghymru."
Dywedodd Cyfarwyddwr Academaidd y Lab, yr Athro Rick Delbridge,
"Rydyn ni'n hynod falch o gael y cyfle i gynyddu nifer y rheini sy'n cymryd rhan yn y rhaglen Arloesi i Arbed. Mae partneriaeth y Lab yn cyfuno arbenigedd arloesi Nesta ag ymchwil academaidd y Brifysgol mewn ffyrdd sy'n annog ac yn cefnogi prosiectau arloesol ac effeithiol sy'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr."