Neidio i'r prif gynnwy

Bydd sêr o'r byd chwaraeon ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd yn dod ynghyd heddiw i lansio cynllun Milltir y Dydd yn swyddogol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Michaela Breeze o dîm codi pwysau Prydain, y rhedwr Christian Malcolm, yr anturiaethwr Tori James, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd Rebecca Evans, sylfaenydd Milltir y Dydd Elaine Wyllie, a phennaeth gweithgarwch corfforol Iechyd Cyhoeddus Cymru Robert Sage, yn lansio'r fenter yn swyddogol yn Ysgol Gynradd Pontllanfraith yn y Coed-duon. 

Yr ysgol hon yng Nghaerffili yw'r ysgol ddiweddaraf yng Nghymru i ymrwymo i gynllun Milltir y Dydd, sy'n ffordd hawdd a hwyliog o wella iechyd a lles plant. Syniad Elaine Wyllie, cyn-bennaeth ysgol gynradd fawr yn Stirling, yr Alban yw'r fenter, lle mae plant mewn ysgolion cynradd yn rhedeg, cerdded neu loncian am 15 munud bob dydd. Mae'n gynhwysol ac yn syml. Nid oes rhaid talu i gymryd rhan, ac nid oes angen offer na gwaith paratoi.

Dywedodd y Gweinidog, Rebecca Evans:

"Mae Milltir y Dydd yn ffordd hawdd a llawn hwyl o helpu plant i wella eu hiechyd a'u lles. Mae'n ffordd wych o gefnogi pobl ifanc i wneud yr ymarfer corff sy’n cael ei argymell ar eu cyfer bob dydd. Bydd hefyd yn eu helpu i fod yn iach ac yn hapus wrth dyfu'n hŷn. Da iawn i bawb yn Ysgol Gynradd Pontllanfraith am gymryd rhan! Dw i'n annog ysgolion ledled Cymru i gymryd dalen o'u llyfr a chymryd rhan yng nghynllun Milltir y Dydd." 


Dywedodd Elaine Wyllie, cyn-bennaeth a sylfaenydd Milltir y Dydd:
"Mae'n bleser gweld Milltir y Dydd yn cael ei lansio yng Nghymru heddiw. Rwy'n llongyfarch Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am gydnabod manteision y fenter syml, effeithiol, rhad ac am ddim hon i blant Cymru. Bydd y plant yn elwa ar well iechyd yn gorfforol, yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn feddyliol nawr ac yn y dyfodol."

Dywedodd Christian Malcolm, enillydd medalau yng nghystadleuthau 200m drwy Ewrop a'r byd:
"Mae'n fraint cael ymuno â staff a disgyblion Ysgol Gynradd Pontllanfraith ar gyfer lansiad cenedlaethol Milltir y Dydd. Mae'n fenter mor hawdd ond eto'n effeithiol. O fewn mis, mae'r plant yn llawer yn fwy ffit ac yn teimlo'n hapusach ac yn fwy hyderus. Drwy ddatblygu'r arferion iach hyn o oed cynnar, ry'n ni'n helpu ein plant i fyw bywydau iach a llawn."

Dywedodd Michaela Breeze, enillydd medal aur codi pwysau Gemau'r Gymanwlad:
"Mae cael plant i wneud ymarfer corff o oed ifanc yn hollbwysig wrth eu paratoi i ddilyn bywyd iach. Mae Milltir y Dydd mor syml. Does dim angen angen unrhyw offer, paratoi cyn dechrau na thacluso ar ôl gorffen. Mae'r plant yn rhedeg yn yr awyr iach a dyna ni. Mae'n cynnwys pawb. Gall pob plentyn, beth bynnag eu hamgylchiadau, eu hoed neu eu gallu lwyddo wrth gyflawni Milltir y Dydd." 

Dywedodd Angela Talor, Pennaeth Ysgol Gynradd Pontllanfraith:
"Aeth rhai o'n disgyblion blwyddyn 6 i gael hyfforddiant Llysgenhadon Ifanc gyda'r tîm Datblygu Chwaraeon lleol. Fe ddaethon nhw'n ôl i'r ysgol yn frwdfrydig tu hwnt am Milltir y Dydd. Fe wnaethon ni drafod y peth gyda'r staff ac roedden nhw'n awyddus i'w wneud hefyd. Mae'r Llysgenhadon Ifanc wedi cymryd rhan lawn yn y gwaith trefnu a chynllunio ar gyfer Milltir y Dydd. Ry'n ni wedi cael ambell ymarfer i weld beth fyddai'r ffordd orau o'i wneud ac wedi penderfynu y byddwn ni'n mynd allan i redeg neu i gerdded bob dydd yn ystod amser chwarae'r prynhawn."

Dywedodd Robert Sage, arweinydd Gweithgarwch Corfforol Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Ry'n ni'n hapus iawn ein bod wedi gallu helpu i ddod â chynllun Milltir y Dydd i Gymru. Ry'n ni'n edrych ymlaen at annog pob ysgol yng Nghymru i gymryd rhan yn y fenter fel rhan o'u gwaith Ysgolion Iach. Y ffordd orau o sefydlu a chynnal bywyd egnïol yw cynnwys ymarfer corff yn rhan o'ch bywyd bob dydd. Mae Milltir y Dydd yn ffordd wych i blant ddatblygu arferion da sy'n para weddill eu bywydau."