Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn y mae’r gyfraith Rhentu Cartrefi yn ei olygu i landlordiaid a sut rydych yn rhentu cartrefi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn symleiddio'r ffordd y byddwch yn rhentu eiddo. Mae 2 fath o landlord o dan y Ddeddf:

  • landlordiaid cymunedol (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn bennaf)
  • landlordiaid preifat (pob math arall o landlord)

Contract meddiannaeth

Gelwir tenantiaid a thrwyddedeion yn ddeiliaid contract o dan y Ddeddf. Bydd deiliaid contract yn cael contract meddiannaeth (yn lle trefniadau tenantiaeth a thrwydded).

Ceir 2 fath o gontract meddiannaeth, sef:

  • Contract diogel: at ddefnydd landlordiaid cymunedol.
  • Contract safonol: dyma'r contract diofyn ar gyfer y sector rhentu preifat, ond gall awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ei ddefnyddio o dan amgylchiadau penodol (e.e. ‘contract safonol â chymorth’ ar gyfer llety â chymorth).

Mae 4 math o delerau y gellir eu cynnwys mewn contractau meddiannaeth:

  • Materion allweddol: enwau'r unigolion dan sylw a chyfeiriad yr eiddo. Rhaid cynnwys y rhain ym mhob contract.
  • Telerau Sylfaenol: mae'r rhain yn trafod yr agweddau pwysicaf ar y contract, gan gynnwys y gweithdrefnau ar gyfer cymryd meddiant o'r eiddo a rhwymedigaethau'r landlord mewn perthynas â gwneud gwaith atgyweirio
  • Telerau Atodol: mae'r rhain yn ymwneud â'r materion mwy ymarferol, bob dydd sy'n berthnasol i'r contract meddiannaeth, er enghraifft, y gofyniad i ddeiliad contract roi gwybod i'r landlord os bydd yr eiddo yn wag am gyfnod o 4 wythnos neu ragor
  • Telerau Ychwanegol: mae'r rhain yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion eraill y cytunwyd arnynt yn benodol, er enghraifft, teler sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes. Rhaid i unrhyw delerau ychwanegol fod yn deg, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015.

Mae'n ofynnol ichi roi datganiad ysgrifenedig o'r contract meddiannaeth i bob deiliad contract (bydd hyn yn cymryd lle y cytundeb tenantiaeth neu'r cytundeb trwyddedu presennol).  Rhaid i'r datganiad ysgrifenedig gynnwys holl delerau'r contract.

Ar gyfer eiddo sy'n caei ei rentu o'r newydd ar ôl i'r ddeddf dod i rym, rhaid cyflwyno'r datganiad ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod i ddyddiad meddiannu'r eiddo o dan y contract. Gwnaeth cytundebau tenantiaeth presennol drosi i'r contract meddiannaeth perthnasol ar y diwrnod y daeth y Ddeddf i rym, ac mae’n rhaid i landlordiaid gyflwyno datganiad ysgrifenedig o'r contract meddiannaeth wedi'i drosi i ddeiliaid y contract erbyn 6 mis ar ôl hynny. Gellir cyflwyno'r datganiad ysgrifenedig ar ffurf papur neu yn electronig (os bydd deiliad y contract yn cytuno). 

Bydd angen i chi gofio’r materion canlynol.

Atgyweiriadau a ffitrwydd i fod yn gartref

Mae'n rhaid i chi sicrhau bod cartrefi yn ffit i fod yn gartref, hynny yw yn ddiogel i fyw ynddyn nhw. Er enghraifft drwy osod larymau mwg a carbon monocsid sy'n gweithio a chynnal prawf diogelwch trydanol. Ni fydd rhent yn daladwy am unrhyw gyfnod pan nad yw'r eiddo'n addas i bobl fyw ynddo.

Rhaid i chi gadw strwythur a thu allan yr eiddo mewn cyflwr da a sicrhau bod gosodiadau ar gyfer cyflenwi dŵr, nwy neu drydan, glanweithdra, gwresogi a dŵr poeth mewn cyflwr da ac yn gweithio'n briodol.

Os byddwch yn cyhoeddi hysbysiad meddiant heb fai mewn ymateb i gais am waith atgyweirio (a elwir yn aml yn droi allan dialgar), gall y llys wrthod gwneud gorchymyn meddiant ac ni fydd modd rhoi rhybudd heb fai pellach tan 6 mis yn ddiweddarach. 

Cyfnodau rhybudd i derfynu contractau

Pan fo deiliad contract wedi torri telerau'r contract meddiannaeth, y cyfnod hysbysu byrraf y gellir ei rhoi yw un mis. Gall y cyfnod rhybudd hwn fod yn llai pan fo'n ymwneud ag achos o dorri telerau ymddygiad gwrthgymdeithasol neu delerau ôl-ddyledion rhent difrifol.

Pan gaiff hysbysiad dim bai ei gyflwyno, y cyfnod hysbysu byrraf y gellir ei rhoi yw 6 mis.

Ni allwch roi hysbysiad o'r fath:

  • tan chwe mis ar ôl dechrau'r contract
  • oni bai eich bod wedi cydymffurfio â rhwymedigaethau penodol, gan gynnwys cofrestru â Rhentu Doeth Cymru a chael trwydded ganddo yn ogystal â dilyn rheolau diogelu blaendal.

Ni allwch ond gynnwys cymal terfynu os bydd cyfnod penodol o ddwy flynedd neu fwy gan gontract meddiannaeth cyfnod penodol. Ni all landlord weithredu ar gymal terfynu cyn diwedd 18 mis ar ôl i ddeiliad y contract feddiannu'r eiddo gyntaf.

Cyd-gontractau

Gall deiliad contract adael contract heb ddod â'r contract i ben yn gyfan gwbl.

Gellir ychwanegu deiliaid contract newydd heb orfod dod â'r contract presennol i ben a dechrau contract newydd.

Gwell hawliau olynu

Gall olynydd â blaenoriaeth ac olynydd wrth gefn etifeddu'r contract meddiannaeth. Trwy hyn, gellir sicrhau y caiff y contract ei etifeddu gan olynydd 2 waith yn olynol, er enghraifft, gan ŵr neu wraig, ac yna gan aelod arall o'r teulu. Mae hefyd hawl olynu newydd i ofalwyr.

Eiddo gadawedig

Cewch adennill meddiant o eiddo gadawedig heb orfod cael gorchymyn llys ar ôl cyflwyno hysbysiad rhybuddio o 4 wythnos a chynnal ymchwiliadau i fod yn siŵr bod yr eiddo yn adawedig.

Llety â Chymorth (Landlordiaid Cymunedol ac Elusennau yn unig)

Os ydych yn darparu llety â chymorth (a elwir yn ‘fyw â chymorth’ weithiau), nid oes angen i chi roi contract meddiannaeth ar gyfer y chwe mis cyntaf y bydd yr unigolyn dan sylw yn byw yn yr eiddo.

Er mwyn cael ei ddosbarthu'n llety â chymorth, rhaid darparu gwasanaethau cymorth ar ffurf cymorth, hyfforddiant, arweiniad neu gwnsela. Mae gwasanaethau cymorth yn cynnwys:

  • cymorth i reoli neu oresgyn dibyniaeth
  • cymorth i ddod o hyd i gyflogaeth neu lety arall
  • rhoi cymorth i rywun sy'n ei chael hi'n anodd byw yn annibynnol oherwydd oed, afiechyd, anabledd neu unrhyw reswm arall

Ar ôl 6 mis, bydd hawl gan yr unigolyn/unigolion i gael ‘contract safonol â chymorth’.  Mae’r contract safonol â chymorth yn gweithio mewn ffordd debyg i'r contract safonol. Fodd bynnag, mae modd cynnwys telerau sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • y gallu i adleoli deiliad y contract yn yr adeilad
  • gallu'r landlord i wahardd deiliad y contract o'r annedd dros dro am gyfnod o hyd at 48 awr, hyd at 3 gwaith o fewn 6 mis

Dylech gyfeirio at y ddogfen ganllaw ar wahardd dros dro am ragor o wybodaeth.

Gallai’r ddogfen cwestiynau cyffredin ar gyfer landlordiaid fod o ddefnydd i chi. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys rhagor o wybodaeth am faterion fel cyfnodau rhybudd ar gyfer troi allan.