Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Fel rhan o'r polisi rhenti tai cymdeithasol 5 mlynedd presennol, cytunodd landlordiaid gynnal arolwg safonol o fodlonrwydd tenantiaid a fyddai'n cael ei gyhoeddi i helpu tenantiaid i graffu ar berfformiad landlordiaid a'i gymharu.

Y bwriad oedd i ganlyniadau'r arolwg fod ar gael i'w cyhoeddi erbyn mis Ebrill 2021 a chynnal arolygon o leiaf ddwywaith y flwyddyn wedi hynny. Fodd bynnag, o ganlyniad i bandemig COVID-19 dros y flwyddyn ddiwethaf, mae landlordiaid cymdeithasol wedi bod yn canolbwyntio ar barhad busnes a darparu gwasanaethau mewn amgylchiadau heriol. Mae tenantiaid hefyd wedi bod yn delio â nifer o faterion o ganlyniad i'r pandemig, gan gynnwys iechyd, lles a phwysau economaidd.

Yn ddealladwy, nid oedd arolygon o fodlonrwydd tenantiaid a ffurflenni data yn flaenoriaeth i landlordiaid cymdeithasol na'u tenantiaid yn ystod 2020. Felly, rydym wedi cyhoeddi’r data sydd gennym ar gyfer pob landlord cymdeithasol mewn perthynas â rhai cwestiynau safonol.

Noder nad yw hon yn set ddata gyflawn gan nad oedd cwestiynau wedi'u safoni ac roedd methodolegau'r arolygon yn wahanol. Yn ogystal, mae'n bwysig nodi bod yr amserlen o ran cynnal yr arolygon yn amrywio. Felly, dylid bod yn ofalus wrth ystyried canfyddiadau'r arolygon a dylid triongli unrhyw gasgliadau a ddeuir iddynt fel y bo'n briodol. Wrth symud ymlaen, ym mis Ebrill 2022 byddwn yn cyhoeddi canlyniadau set safonol o gwestiynau craidd ar fodlonrwydd. Ni fydd yr arolygon yn fwy na 2 flwydd oed a bydd methodolegau'r arolygon yn sicrhau bod cyfwng hyder cyson yn cael ei gyflawni. Yna caiff yr arolygon eu cyhoeddi'n flynyddol.

Mae'r data presennol yn caniatáu inni gymharu boblonrwydd tenantiaid ar draws y meysydd canlynol:

  • gwasanaeth a ddarperir gan y landlord
  • ansawdd eu cartref
  • atgyweirio a chynnal a chadw
  • y gymdogaeth
  • gwerth am arian
  • pa mor dda y mae'r landlord yn gwrando arnynt

Bydd y cwestiynau ychwanegol o fis Ebrill 2022 yn caniatáu i denantiaid gymharu:

  • iechyd a diogelwch y cartref
  • ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • gallu'r tenantiaid i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau
  • ymddiriedaeth a pharch

Yn gyffredinol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y ffordd y mae eich landlord cymdeithasol yn delio ag atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw?

Image
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y ffordd y mae eich landlord cymdeithasol yn delio ag atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw?

Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi bod eich rhent yn rhoi gwerth am arian?

Image
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi bod eich rhent yn rhoi gwerth am arian?

Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar ansawdd cyffredinol eich cartref?

Image
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar ansawdd cyffredinol eich cartref?

Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi bod eich landlord cymdeithasol yn gwrando ar eich barn ac yn gweithredu arni?

Image
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi bod eich landlord cymdeithasol yn gwrando ar eich barn ac yn gweithredu arni?

Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar eich cymdogaeth fel lle i fyw?

Image
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar eich cymdogaeth fel lle i fyw?

Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y gwasanaeth a ddarperir gan eich landlord cymdeithasol?

Image
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y gwasanaeth a ddarperir gan eich landlord cymdeithasol?