Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Data mis Mai 2024

Mae cyhoeddiad eleni yn cynnwys 12 cwestiwn safonol mae pob landlord wedi eu gofyn i’w tenantiaid yn ystod y ddwy flynedd diwethaf ar sail methodoleg safonol, ond  gydag ystod o ddulliau casglu.

Darperir y data gan landlordiaid, ac mae Llywodraeth Cymru yn ei gyhoeddi er mwyn rhannu gwybodaeth â rhanddeiliaid fel y gallant roi sylw pellach iddi gyda’r landlordiaid. Nid yw’r data wedi’i ddilysu gan Lywodraeth Cymru.

Dylid bod yn ofalus iawn wrth gymharu lefelau boddhad tenantiaid, gan ystyried ystod o ffactorau gan gynnwys nifer yr eiddo sy’n cael eu rheoli gan landlordiaid yn ogystal ag oedran a lleoliad yr eiddo.

Data mis Mai 2023

Roedd cyhoeddiad y llynedd yn cynnwys yr un 12 cwestiwn safonol yr oedd pob landlord cymdeithasol wedi eu gofyn i’w tenantiaid yn ystod y ddwy flynedd cyn 2023 ar sail methodoleg safonol.

Nid oedd y data wedi’i ddilysu gan Lywodraeth Cymru.

Ewch i Landlordiaid cymdeithasol: arolwg boddhad tenantiaid 2023 [HTML] | LLYW.CYMRU

Data mis Mai 2022 

Roedd cyhoeddiad 2022 hefyd yn cynnwys y 12 cwestiwn safonol yr oedd pob landlord cymdeithasol wedi eu gofyn i’w tenantiaid yn ystod y ddwy flynedd cyn 2022  ar sail methodoleg safonol. 

Nid oedd y data wedi’i ddilysu gan Lywodraeth Cymru.

Ewch i Landlordiaid cymdeithasol: arolwg boddhad tenantiaid Mai 2022 | LLYW.CYMRU

Data mis Mai 2021

Fel rhan o’r cytundeb rhent tai cymdeithasol pum mlynedd presennol, cynhaliodd landlordiaid cymdeithasol arolwg safonol o foddhad tenantiaid. Y bwriad oedd y byddai canlyniadau’r arolwg ar gael i’w cyhoeddi erbyn mis Ebrill 2021 ac yna y câi arolygon eu cynnal bob dwy flynedd, o leiaf. Fodd bynnag, oherwydd effaith pandemig COVID-19, data cyfyngedig yn unig y gwnaethom ei gyhoeddi yn 2021, ym mis Mai, a hynny ar draws y meysydd a ganlyn:

  • y gwasanaeth a ddarperir gan y landlord
  • ansawdd y cartref
  • atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw
  • y gymdogaeth
  • gwerth am arian
  • pa mor dda mae’r landlord yn gwrando ar denantiaid

Ewch i Landlordiaid cymdeithasol: arolwg boddhad tenantiaid Mai 2021

1. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y gwasanaeth a ddarperir gan eich landlord cymdeithasol?

Image
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y gwasanaeth a ddarperir gan eich landlord cymdeithasol?

2. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar ansawdd cyffredinol eich cartref?

Image
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar ansawdd cyffredinol eich cartref?

3. Yn gyffredinol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y ffordd y mae eich landlord cymdeithasol yn delio â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw?

Image
Yn gyffredinol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y ffordd y mae eich landlord cymdeithasol yn delio â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw?

4. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar eich cymdogaeth fel lle i fyw?

Image
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar eich cymdogaeth fel lle i fyw?

5. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich rhent yn cynnig gwerth am arian?

Image
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich rhent yn cynnig gwerth am arian?

6. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod y ffioedd a godir am wasanaethau yn cynnig gwerth am arian?

Image
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod y ffioedd a godir am wasanaethau yn cynnig gwerth am arian?

7. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich landlord cymdeithasol yn gwrando ar eich safbwyntiau ac yn gweithredu arnynt?

Image
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich landlord cymdeithasol yn gwrando ar eich safbwyntiau ac yn gweithredu arnynt?

8. Gan feddwl am eich cartref yn benodol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi bod eich landlord cymdeithasol yn darparu cartref sy'n ddiogel?

Image
Gan feddwl am eich cartref yn benodol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi bod eich landlord cymdeithasol yn darparu cartref sy'n ddiogel?

9. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y ffordd y mae eich landlord cymdeithasol yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Image
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y ffordd y mae eich landlord cymdeithasol yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?

10. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y cyfleoedd sy'n cael eu rhoi ichi gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau eich landlord cymdeithasol?

Image
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y cyfleoedd sy'n cael eu rhoi ichi gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau eich landlord cymdeithasol?

11. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich landlord cymdeithasol yn rhoi cyfle ichi ddweud eich dweud am y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu rheoli?

Image
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich landlord cymdeithasol yn rhoi cyfle ichi ddweud eich dweud am y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu rheoli?

12. I ba raddau yr ydych chi'n cytuno â'r datganiad canlynol - "Rwy'n ymddiried yn fy landlord cymdeithasol"

Image
I ba raddau yr ydych chi'n cytuno â'r datganiad canlynol - "Rwy'n ymddiried yn fy landlord cymdeithasol"