Roedd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, yn y Drenewydd ddoe i lansio system newydd yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd sy’n gweithio heb ddefnyddio arian.
Mae systemau heb arian yn dod yn fwyfwy poblogaidd mewn ysgolion ledled Cymru ac yn caniatáu i rieni dalu am brydau eu plant yn ogystal â gwasanaethau eraill sy’n cael eu darparu gan ysgolion fel tripiau ysgol neu fenthyg llyfrau llyfrgell, drwy gyfrif ar-lein.
Gan ddefnyddio porthol ar-lein, gall rhieni a myfyrwyr ychwanegu credyd at eu cyfrif, a rhoi mwy arno pan fo angen, ac yna defnyddio system fiometrig i dalu am brydau bwyd. Mae’r elfen ar-lein hefyd yn caniatáu i rieni fonitro dewisiadau bwyd eu plant.
Mae’r manteision eraill yn cynnwys y ffaith na fydd angen i blant a phobl ifanc fynd ag arian parod all fynd ar goll neu gael ei wario ar fwydydd eraill nad ydyn nhw mor iach y tu allan i’r ysgol.
Dywedodd Kirsty Williams,
“Mae ysgolion ledled Cymru yn cyflwyno systemau heb arian fel ffordd o ddod i ben â’r stigma mae rhai plant yn ei wynebu adeg prydau bwyd. Ar yr un pryd, mae iddynt fanteision o ran cyflymu’r gwasanaeth amser cinio, helpu i leihau achosion o ladrad a bwlio a chefnogi cynlluniau i arbed costau a gwella effeithlonrwydd.
Gall y systemau hyn hefyd fod yn gyfleus iawn i rieni fydd ddim mwyach yn gorfod chwilota am arian parod bob dydd ac mae hefyd yn ffordd arall i ni gefnogi arloesedd mewn ysgolion er mwyn gwella ansawdd bywyd i fyfyrwyr a staff fel ei gilydd.”
Yr ysgol gyntaf i ddefnyddio’r system ym Mhowys oedd Ysgol Uwchradd Crucywel a’r gobaith yw y bydd systemau tebyg yn cael eu cyflwyno ym mhob ysgol ledled y sir dros y ddwy flynedd nesaf.
Bydd y system hefyd yn rhoi gwybod i staff arlwyo am ofynion dietegol penodol mewn perthynas ag alergeddau.
Bydd y rhai heb fynediad at y fewnrwyd yn gallu defnyddio safleoedd Pay-Point megis siopau papurau newydd, siopau garejys a siopau lleol eraill.