Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg wedi bod yng Nghonwy heddiw i agor yn swyddogol ddwy ysgol ym Mae Colwyn a gyllidir gan Lywodraeth Cymru.
Mae Ysgol Nant y Groes ac Ysgol Swn y Don wedi eu hailwampio a'u hehangu i ddarparu amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf, gyda'r holl gyfleusterau a ddisgwylir yn un o ysgolion yr 21ain ganrif, gan gynnwys y cyfarpar TG diweddaraf.
Cyfanswm cost y ddau brosiect hwn oedd £4.2 miliwn, ac fe'u hariannwyd gan Raglen Llywodraeth Cymru i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif (50%) a Rhaglen Gyfalaf Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (50%).
Ymwelodd yr Ysgrifennydd Addysg â'r ddau safle i weld eu cyfleusterau newydd a mwynhau perfformiadau gan y disgyblion, cyn dadorchuddio placiau o flaen y gwesteion a oedd wedi ymgynnull.
Dywedodd Kirsty Williams:
"Mae'n bleser cael bod yng Nghonwy heddiw i agor yn swyddogol Ysgol Nant y Groes ac Ysgol Swn y Don ar eu newydd wedd, a gweld drosof i fy hun sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn cael effaith gadarnhaol ar addysg a dysgu yn yr ardal.
“Ein cenhadaeth yw codi safonau ein cenedl, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol. Mae ein Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn chwarae rhan allweddol yn hyn. Dyma'r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a'n colegau ers y 1960au."
Mae ysgol newydd Nant y Groes yn cyfuno ysgol fabanod Glan y Môr ac ysgol iau Pendorlan, a oedd mewn adeiladau ar wahân ar un safle ym Mae Colwyn.
Roedd y prosiect buddsoddi £2.25 miliwn hwn yn canolbwyntio ar wella amgylchedd yr ysgol drwy ailwampio'r hen safle a datblygu llwybr i gysylltu'r ddau adeilad.
Yn ogystal â'r ardal gyswllt wydr unllawr, gwnaed gwelliannau mewnol, ee ailfodelu ystafelloedd a gosod lifft newydd, gan sicrhau bod pob disgybl yn gallu cyrraedd ardal CA2 ar yr ail lawr.
Gwnaed addasiadau a datblygiadau hefyd i bob gwasanaeth mewnol ac allanol, gan gynnwys boeler newydd yr oedd ei angen yn fawr a gwell cyfleusterau TG.
Y tu allan, mae'r buddsoddiad wedi gwella ardaloedd chwarae a thu blaen yr ysgol, gan gynnwys cyfarpar chwarae ac Ardal Gemau Amlddefnydd 3G.
Mae Ysgol Swn y Don yn cyfuno Ysgol Fabanod Penmaenrhos ac Ysgol Iau Tan y Marian, ac mae ysgol gynradd newydd wedi'i chreu ar safle Ysgol Tan y Marian.
Fel rhan o'r gwaith ailwampio hwn sy'n werth £1.97 miliwn, mae'r adeilad wedi'i adnewyddu'n helaeth. Mae yna fynedfa a derbynfa newydd, crewyd estyniad ar gyfer dwy ystafell ddosbarth newydd (dosbarth meithrin a dosbarth derbyn), ailaddurnwyd yr ysgol gyfan, adnewyddwyd y gegin, a gosodwyd byrddau gwyn electronig newydd ym mhob ystafell ddosbarth ac yn y neuadd.
Crewyd ardal chwarae meddal ar gyfer y dosbarthiadau meithrin a derbyn, a gosodwyd boeler a system wresogi newydd. Gosodwyd ardal chwarae darmac fwy o faint, llwybr natur, meinciau, siediau gardd a gwelyau blodau.
Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Jones, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:
"Mae'n bwysig iawn i'r Cyngor ein bod yn gallu buddsoddi yn ein hysgolion, i ganiatáu i'r llywodraethwyr a'r staff ddarparu addysg a chymorth o ansawdd mewn adeiladau addas. Dw i am ddymuno'r gorau i staff a disgyblion Ysgol Nant y Groes ac Ysgol Swn y Don, a dw i am ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am roi o'i hamser i ymweld â'r ddwy ysgol heddiw."