Araith a draddodwyd I gynhadledd prifathrawon ysgolion uwchradd, 28 Chwefror.
Bore da bawb.
Diolch am ddod at eich gilydd heddiw yn Stadiwm SWALEC fel arweinwyr ein hysgolion uwchradd.
Mae codi safonau ysgolion, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol a hyder yn ymdrech gyfunol.
Ni all neb - ddim un athro unigol, pennaeth yn gweithredu ar ben ei hun ac yn arbennig ddim ond un Ysgrifennydd Addysg, gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg ei hun.
Mae rhannu profiad, arbenigedd ac ymdrech a wrth wraidd y genhadaeth honno.
Fodd bynnag, fel arweinwyr a phenaethiaid, eich dylanwad, eich egni a'ch balchder chi sy'n hanfodol, nid yn unig er mwyn trawsnewid ein hysgolion, ond y dyfodol ar gyfer cenedlaethau o ddinasyddion Cymru.
Hyd yn oed fel Prif Weinidog, dywedodd Winston Churchill “Headmasters have powers at their disposal with which Prime Ministers have never yet been invested.”
Ac er fy mod yn cymryd fy rôl arwain o ran gosod agenda a gweledigaeth o ddifrif, gwn mai chi yw'r ysgogwyr newid a gwelliant mwyaf pwerus.
Felly ei eich bod yn nifer gymharol fach – ychydig mwy na 200 o benaethiaid uwchradd – fel arweinwyr eich ysgolion, arweinwyr y proffesiwn, ac fel arweinwyr newid sy'n rhannu'r fraint a'r cyfrifoldeb o drawsnewid bywydau a thrawsnewid ein gwlad.
Nawr, nid oes gennyf unrhyw gydymdeimlad â'r rhai sy'n defnyddio ein maint fel esgus parod dros ostwng safonau ac uchelgeisiau. Rwy'n derbyn y gall ddod â heriau, ond gwn hefyd y dylai ein galluogi i fod yn graff ac yn arloesol, gan weithredu'n gydlynol.
Ac, yn syml, mae angen i ni fod yn well yn y pethau creiddiol hyn a wnawn.
Dyna pam fod y nod o system hunan-wella wrth wraidd ein dull gweithredu. Ac os edrychwch ar lawer o'r systemau parod i ddiwygio sy'n cyflawni'n dda, gwledydd fel Estonia, Iwerddon a Seland Newydd sy'n arwain y ffordd.
A gwyddom hyn o'n hymrwymiad i ddysgu gan y goreuon a thrwy gydweithio ag Andreas a'i dîm yn yr OECD.
Hoffwn ddiolch yn ffurfiol i Andreas a'i dîm yn yr OECD am drylwyredd eu gwaith wrth graffu ar ein taith ddiwygio hyd yma.
Rwy'n sicr y byddwch yn dawel eich meddwl fel minnau ar ddeall fod yr OECD wedi cadarnhau ein bod yn teithio at y llwybr cywir, ac yn gwneud y pethau cywir ac mae gennym y cyfle hwn dros y deuddydd nesaf i drafod ein camau nesaf.
Rhaid i ni ofyn y cwestiynau cywir, a herio'n gilydd ar hyd y ffordd. Ydyn, mae fy mlaenoriaethau o well arweinyddiaeth, codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a diwygio hyfforddiant a datblygiad athrawon yn glir. Ac ni wnaf osgoi'r rheini. Ond rwyf hefyd yn agored i syniadau a thystiolaeth am yr hyn sy'n gweithio orau wrth eu cyflawni.
Dyna pam y gwahoddais yr OECD yn ôl i Gymru ym mis Medi'r llynedd, i gynnal ‘asesiad diwygio addysg cyflym’ i ystyried y diwygiadau a roddwyd ar waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae eu hadroddiad wedi tynnu sylw at rai materion, ac wedi gwneud argymhellion y bydd angen i ni eu hystyried yn ofalus iawn, iawn.
Ond, maent hefyd wedi tynnu sylw ar rywfaint o waith ardderchog, gan nodi rôl hanfodol Ysgolion Arloesi ac hefyd y cynnydd da a wneir wrth ddatblygu a wireddu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Rydym ar ganol taith a gwn am yr ymroddiad a'r egni anhygoel sy'n cyd-fynd â phob cam...felly rwy'n teimlo'n galonogol iawn fod yr OECD wedi nodi ei fod o'r farn fod y proffesiwn wedi symud ymlaen o ludded diwygio i weledigaeth hirdymor a rennir ac ymdeimlad cryf o barodrwydd.
Gwn o siarad â llawer ohonoch yn ystod y misoedd diwethaf ein bod yn rhannu uchelgeisiau nid dim ond ar gyfer ein plant neu ein disgyblion ein hunain, ond ar gyfer y system gyfan.
Nod y deuddydd hwn yw edrych yn fanwl ar y ffordd rydym yn cyflawni'r weledigaeth a nodwyd gan yr Athro Donaldson, a'r ffordd y byddwn yn parhau i gyflawni yn y dyfodol.
Mae gennym siaradwyr a rhai gweithdai ardderchog ar eich cyfer heddiw ac yfory. Felly, dyma'r amser i ystyried, gofyn cwestiynau, ac i herio syniadau.
Ond gadewch i ni hefyd gydnabod y cynnydd rydym yn ei wneud.
Roeddwn yn falch o weld bwlch cyrhaeddiad TGAU yn cau rhwng disgyblion tlawd a'u cyfoedion unwaith eto’r flwyddyn diwethaf. Mae hynny o ganlyniad i'r gwaith caled a wnaethoch chi a'ch staff.
Ond, wrth gwrs, mae cymaint rhagor i'w wneud i sicrhau y gall pob disgybl gyrraedd ei botensial.
Dangosodd canlyniadau cyffredinol TGAU 2016 hefyd berfformiad cryf arall gyda dwy ran o dair o'n dysgwyr yn cael o leiaf A* -C, gyda chynnydd yn y graddau uwch.
Ond un o'r gwersi o PISA yw bod angen i ni wneud llawer mwy i ymestyn ein cyflawnwyr uchaf, o'r cyfnod pontio i'r uwchradd ac ymlaen i TGAU a Safon Uwch. Rydym yn gweithio'n galed drwy Rwydwaith Seren, ond rwy'n cydnabod bod angen gwneud rhagor a byddaf yn cyhoeddi manylion pellach maes o law.
Hoffwn eich atgoffa y cynhelir Cynhadledd Seren ar 15 a 16 Mawrth, a bawn yn annog pob ysgol i gofrestru er mwyn gallu mynychu. Anelir y digwyddiad hwn at fyfyrwyr ac athrawon Seren, a chydlynwyr Mwy Galluog a Thalentog.
Cymerwch y cyfle i alw heibio i'r desgiau cofrestru yma yn nes ymlaen i gael rhagor o wybodaeth.
Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn golygu bod yn rhaid i ni gael system addysg sy'n galluogi ein dinasyddion i gystadlu â'r gorau yn y byd.
Felly, hoffwn fod wedi gweld gwell cynnydd gyda'n canlyniadau PISA diweddar. Rhaid cyfaddef roedd y canlyniadau ar y cyfan yn siomedig.
Gwn fod PISA yn hollti barn. Clywaf hynny gan rai yn y proffesiwn. Rhaid i hynny newid oherwydd, a peidied neb ag amau, mae'n parhau yn feincnod rhyngwladol cydnabyddedig ar gyfer sgiliau. Mae gwledydd o amgylch y byd yn ei ddefnyddio fel arwydd ar gyfer entrepreneuriaid, cyflogwyr a buddsoddwyr. A'r un mor bwysig, caiff ei ddefnyddio er mwyn helpu i wella hyder y cyhoedd mewn system ysgolion.
Byddwch yn clywed mwy am hyn yn y sesiwn PISA yfory.
Ond neges bellach o waith yr OECD - a amlinellwyd yn eu hadroddiad Cymru 2014 - oedd y dylai datblygu arweinyddiaeth systemau fod yn un o brif flaenoriaethau diwygio’r system addysg. Rwy'n glir na wnaed digon gan Llywodraeth Cymru ar hyn.
Dyna pam fy mod wedi blaenoriaethu'r Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol newydd. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen arweinwyr cryf ar Gymru sy'n barod ar gyfer yr her.
Fel yr addawyd, rydym yn eich cynnwys yn y gwaith o ddatblygu hyn, a bydd Ann Keane yn trafod gyda chi yfory sut y gall eich Academi ysbrydoli cenhedlaeth newydd o arweinwyr.
Defnyddiaf y term “eich Academi” yn fwriadol gan mai dyna yw fy nod – sef bod yr Academi yn rhywbeth y byddwch yn buddsoddi ynddi, ac y bydd yn ei thro, yn cyflawni ar eich cyfer chi fel gweithwyr proffesiynol.
Mae hyn yn fuddsoddiad ynoch chi, a’n harweinwyr yn y dyfodol. Chi yw pinacl addysgwyr yng Nghymru. Dylech ysbrydoli eraill, a dylai eraill ddyheu am fod yn eich safle chi.
Ond gadewch i mi fod yn glir iawn - pan ddaw PISA 2018, os na fydd newidiadau, fy mhryder yw y bydd pwysau yn ymddangos o bob cwr i daflu popeth yn yr awyr a dechrau eto. Nid gair o rybudd gwag yw hyn… dyma yw realiti y sefyllfa hwynebwn.
Wedi dweud hynny, rydym yn y sefyllfa hon gyda’n gilydd ac rwyf wedi ymrwymo i wrando ar eich pryderon a gweithredu arnynt. Rwyf wedi gwneud hynny a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Er enghraifft, rydych yn dweud wrthyf fod gennych bryderon ynghylch y system atebolrwydd bresennol. Mae hyn yn cynnwys materion yn ymwneud â chydlyniad, canlyniadau nas bwriedir a’r gydberthynas rhwng asesiadau addysgu ac atebolrwydd.
Wedi i mi wrando ar y rhain, rwy'n cyhoeddi adolygiad sylfaenol o'n system atebolrwydd heddiw a gaiff ei lywio gennych chi a'n partneriaid.
Rwyf am weld system atebolrwydd sydd: yn Deg; yn Gydlynol; yn Gymesur; yn Dryloyw; ac yn seiliedig ar y werthoedd a rennir ar gyfer addysg yng Nghymru.
Mae hyn yn golygu system sydd â rolau a chyfrifoldebau clir, sy'n hyrwyddo cynhwysiant a thegwch, ac sy'n cydnabod y gwerth a ychwanegir gan athrawon yn yr ystafell ddosbarth ym mhob rhan o'r system.
Rwyf yn hyderus y bydd fy mhwyslais i - a'n pwyslais ninnau – ar arweinyddiaeth, rhagoriaeth addysgu, tegwch a lles i ddysgwyr, a chyfrifoldeb ar y cyd - yn ein galluogi i gyrraedd y safonau uchaf.
Fel Llywodraeth, ni fyddwn yn osgoi ein rôl fel arweinwyr, sy'n atebol i ddinasyddion Cymru. Mae cynnwys rhieni a disgyblion yn ein diwygiadau yn ddyletswydd barhaus hanfodol.
Ond, fel rwyf wedi'i wneud yn glir heddiw, gobeithio, rhennir yr arweinyddiaeth gyda chi fel penaethiaid, ac mae'n rhaid i ni gydnabod rhagoriaeth a datblygu talent ymhellach, gan godi statws y proffesiwn yn gyffredinol.
Fel rhan o hyn, bydd y safonau addysgu ac arweinyddiaeth newydd yn barod i ymgynghori arnynt yn nes ymlaen yr wythnos hon. Nawr, bydd llawer ohonoch wedi cymryd rhan yn y gwaith o'u datblygu eisoes, ond ymatebwch i'r broses ymgynghoriad ffurfiol os gwelwch yn dda.
Cyfleoedd megis y gynhadledd hon yw'r sylfaeni ar gyfer y dyfodol. Byddaf yn rhoi fy nghefnogaeth lawn i chi ac yn ymddiried yn llawn ynoch... ac yn gyfnewid am hyn gwn y byddwch yn sefyll ar eich traed fel arweinwyr ac yn cyflawni'r gwaith.
Codi safonau a chyflawni'r hyn sydd orau ar gyfer ein myfyrwyr yw'r hyn rydym oll yn gweithio tuag ato.
Pawb, ar bob lefel – yn cydweithio, wedi ymrwymo i gyflawni ein nodau a rennir.
Cydweithio, i sicrhau nad yw cefndir plentyn yn penderfynu beth yw ei ddyfodol. Gyda'n gilydd, fel bod pawb yn cyrraedd ei botensial proffesiynol llawn. Gyda'n gilydd, fel y gall Cymru ddod yn arweinydd byd o ran addysg.
Dyma yw fy, ac ein Cenhadaeth Genedlaethol. A chydweithwyr, chi sydd wedi dewis i fod yn arweinwyr y genhadaeth honno. Gadewch i ni wneud hyn. Mi wnawn.
Diolch yn fawr.