Bu’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams yn Aberhonddu heddiw [12/03/18] ar gyfer seremoni swyddogol i dorri tywarchen a chychwyn ar y gwaith o adeiladu safle newydd i Ysgol Uwchradd Aberhonddu.
Mae disgwyl i’r campws newydd modern gael ei agor ym mis Medi 2019. Mae’n cael ei ariannu gan fuddsoddiad o bron i £22 miliwn gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys.
Wedi i’r gwaith orffen, bydd y campws yn darparu adnoddau dysgu ac addysgu gwych ar gyfer 750 o ddisgyblion: 600 o lefydd i ddisgyblion 11-16 oed a 150 o lefydd i ddisgyblion ôl-16.
Roedd yr Ysgrifennydd Addysg yn y seremoni yng nghwmni Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris, Aelod y Cabinet ar faterion Ysgolion, y Cynghorydd Myfanwy Alexander, nifer o staff a disgyblion Ysgol Uwchradd Aberhonddu a chynrychiolwyr y cwmni sy’n gwneud y gwaith, sef BAM UK Construction.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Kirsty Williams:
“Mae’n dda cael gweld bod y gwaith yn dod yn ei flaen ar y campws newydd, modern hwn sy’n cael tua £10 miliwn gan Raglen Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
“Ein cenhadaeth cenedlaethol ar gyfer addysg yw codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, a chreu system addysg sy’n destun balchder a hyder cenedlaethol. Mae’n Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif yn greiddiol i hyn. Dyma’r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a’n colegau ers y 60au.
“Bydd y ganolfan hon yn creu amgylchedd addysgol ar gyfer yr 21ain Ganrif, a bydd yn cynnwys lleoliadau dysgu a fydd yn gallu cael eu haddasu’n gyflym. Bydd hyn yn helpu’r ysgol i fodloni anghenion y disgyblion a’r staff, anghenion sy’n esblygu o hyd.”
Dywedodd Aelod y Cabinet ar faterion Ysgolion, y Cynghorydd Myfanwy Alexander:
“Dyma gam mawr ymlaen o ran rhoi’r Ysgol Uwchradd y mae dysgwyr Aberhonddu yn ei haeddu. Mae pawb a fu’n ddigon ffodus i weld cynlluniau’r adeilad newydd yn gwybod y bydd yn cynnig cyfleusterau rhagorol ar gyfer addysgu a dysgu. Bydd yr ysgol yn gwella golwg yr ardal honno o’r dref hefyd.”