Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams yn neilltuo £200,000 i gefnogi plant lluoedd arfog

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hyd at fis Mawrth eleni, roedd ysgolion yng Nghymru yn gallu gwneud cais am gyllid o Gronfa Cymorth Addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn a oedd yn agored i ysgolion ledled y Deyrnas Unedig ac yn targedu cymorth i blant y Lluoedd Arfog.

Gan fod y gronfa wedi dod i ben bellach, bydd cronfa newydd sef Cronfa Cymorth i Blant y Lluoedd Arfog yn cael ei sefydlu yn y cyfamser gyda swm o £200,000.  Caiff ei gweinyddu gan Brosiect Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) fydd yn gyfrifol am y gronfa.

Gwahoddir ysgolion i wneud cais am arian y tymor hwn yn barod ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi. 

Dywedodd Kirsty Williams:

“Ein cenhadaeth yw codi safonau ein cenedl, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol. Er mwyn sicrhau y bydd hyn yn digwydd, rhaid i bob dysgwr yng Nghymru fedru cyflawni ei botensial llawn.

"Mae'n rhaid i blant y Lluoedd Arfog symud ysgolion ar fyr rybudd yn aml iawn a gallant hefyd wynebu'r sefyllfa bryderus lle bydd rhiant yn gweithio i ffwrdd oddi cartref ar wasanaeth gweithredol.  Dyna pam mae angen i ni sicrhau bod ysgolion yno i'w cefnogi."

Dywedodd Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus:

"Rydyn ni wedi cyflawni llawer yng Nghymru yn cynnig gwasanaethau a chymorth i gymuned y Lluoedd Arfog ac mae camu i mewn i helpu plant personél ar wasanaeth gweithredol i ymgodymu â'r hyn sydd yn amlwg yn gyfnod gofidus iawn yn eu bywyd yn dystiolaeth bellach o'n hymrwymiad.

"Mae CLlLC mewn sefyllfa hynod o addas i reoli'r gronfa gyda Phrosiect Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg gan fod ganddynt eisoes gysylltiadau ag ysgolion a'r Lluoedd Arfog yng Nghymru.

"Byddant yn gwneud yn siŵr bod ysgolion yn hollol ymwybodol o'r gronfa newydd a byddant yn eu gwahodd i gyflwyno eu ceisiadau  fel y gall yr arian fod yn ei le yn barod erbyn mis Medi."

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, llefarydd ar ran CLlLC ar gyfer Addysg:

"Mae'r straen a'r pryder penodol mae plant y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu yn gallu bod yn llethol yn aml, yn arbennig yn yr amgylchedd dysgu. Dyna pam y mae Prosiect Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg yn parhau i weithio'n bositif gyda rhanddeiliaid perthnasol i godi ymwybyddiaeth am broblemau plant y lluoedd arfog mewn addysg ac i gefnogi ysgolion sy'n gweithio gyda'r plant a'r bobl ifanc hyn ledled Cymru."

"Bydd y gronfa dros dro hon gan Lywodraeth Cymru am 2018-19 ac a fydd yn cael ei gweinyddu gan Brosiect Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg o dan adain CLlLC, yn sicrhau bod plant ein lluoedd arfog yn cael y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt i gyflawni eu potensial yn yr ysgol. Mae CLlLC a Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i leihau'r bwlch mewn cyrhaeddiad ac i ddarparu system addysg sy'n paratoi pob dysgwr yng Nghymru am ddyfodol disglair. Wrth i ni edrych ymlaen, mae'n hanfodol bod arian hir dymor gan y llywodraeth yn cael ei ddiogelu at y dyfodol er mwyn sicrhau bod plant o bob cefndir yn cael y cyfleoedd gorau posibl i ffynnu."

Dywedodd Ant Metcalfe, Rheolwr Ardal Cymru ar gyfer y Lleng Brydeinig Frenhinol:

"Mae cael rhiant yn y Lluoedd Arfog yn gall cael effaith anferth ar les rhai o blant y lluoedd arfog. Rydyn ni'n croesawu'r cymorth ychwanegol a fydd o les i blant personél y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac yn eu helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw oherwydd eu hamgylchiadau unigryw.

Ym mis Hydref 2017, fe wnaeth y Lleng Brydeinig lansio canllawiau i blant a theuluoedd y Lluoedd Arfog yng Nghymru i wella ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael iddynt a'n gobaith yw y bydd creu'r gronfa hon yn golygu y bydd mwy o help eto ar gael i blant y lluoedd arfog ledled Cymru."