Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, yn galw ar bob ysgol yng Nghymru i gymryd rhan yn y Great Get Together.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y Great Get Together, a ysbrydolwyd gan Jo Cox AS a lofruddiwyd mor drasig y llynedd, yw tynnu ynghyd gymunedau, cymdogion, disgyblion a ffrindiau i rannu a dathlu popeth sydd gyda ni yn gyffredin.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu i bob ysgol yn y wlad i dynnu sylw at ddigwyddiad eleni, sy'n cael ei gynnal rhwng 16 ac 18 Mehefin, ac i'w hannog i gymryd rhan.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Fe dreuliodd Jo Cox lawer o amser mewn ysgolion ac roedd hi wir yn credu ym mhwysigrwydd ysbrydoli'r genhedlaeth iau i fod yn ddinasyddion da o fewn eu cymunedau. Yn sgil ei marwolaeth drasig, fe grewyd y Great Get Together i'n tynnu ni i gyd ynghyd i ddathlu'r hyn rydyn ni i gyd yn ei rannu ac sy'n gyffredin rhyngon ni, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn sy'n ein rhannu.

"Dros benwythnos 16-18 Mehefin, bydd y Great Get Together yn cael ei gynnal ledled y wlad, a dwi am ei gefnogi drwy ofyn i ysgolion gynnal gwasanaeth arbennig ddydd Gwener 16 Mehefin. Fe fyddwn ni'n cyhoeddi deunydd a fydd yn helpu ysgolion i gymryd rhan.

"Dwi'n edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion i wneud y Great Get Together yn foment o undod sy'n ysbrydoli disgyblion i ddathlu popeth sydd ganddyn nhw'n gyffredin. Dwi o'r farn bod yna nifer cynyddol o bobl sy'n ymwrthod â gwleidyddiaeth gynhennus ac sydd am ddod â'n cymunedau ynghyd a dathlu popeth sy'n ein huno. Dyma ein cyfle."

Gall ysgolion gofrestru eu diddordeb a chael gwybod mwy ar wefan y Great Get Together am y miloedd o weithgareddau sy'n cael eu cynnal ledled y wlad, o bartïon stryd i farbeciws, sioeau cwn i wyliau bwganod brain, cystadlaethau pobi i brydau Iftar aml-ffydd i nodi diwedd ympryd Ramadan.