Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi galw ar brifysgolion Cymru i fod yn gyflogwyr Cyflog Byw (dydd Sul 2 Ebrill).
Yn ei llythyr cylch gwaith blynyddol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), mae wedi amlinellu ei disgwyliadau o’r sector addysg uwch, gan gynnwys yr angen i brifysgolion dalu Cyflog Byw i’w staff.
Ar hyn o bryd, dim ond un brifysgol yng Nghymru sy’n gyflogwr cyflog byw achrededig. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig ers 2015.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Dwi’n uchelgeisiol yn hyn o beth, ac yn hyderus y gall addysg uwch gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol i gynnig mwy o gyfleoedd i bob un o’n dinasyddion, codi safonau ar draws y bwrdd, a sicrhau system addysg sy’n destun balchder a hyder cenedlaethol ac sy’n arloesol.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig ers 2015. Fe hoffwn i weld y Cyngor Cyllido hefyd yn dechrau gweithio gyda sefydliadau i greu sector cyflog byw. Dwi’n disgwyl gweld camau yn cael eu cymryd yn fuan. Mae’n siomedig mai dim ond un o’n prifysgolion sy’n gyflogwr cyflog byw achrededig.
“Mae ymrwymiad ‘prifysgolion’ i ymgyrch leol yn golygu ymestyn y tu hwnt i’r campws ac i mewn i’w cymunedau. Dydy hyn ddim yn gyfyngedig i addysgu a gwaith ymchwil neu i faterion ehangu mynediad. Fe ddylai gael ei ddangos yn y ffordd maen nhw’n rhoi gwerth ar eu staff a’u myfyrwyr, ac fe ddylen nhw fod yn esiampl o gyflogwr blaengar a theg.
“Fe hoffwn i weld CCAUC yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau ar y materion hyn – caffael er enghraifft, gan roi sylw i effeithlonrwydd, cyfrifoldeb ac effaith gymdeithasol, a chyfleoedd i fyfyrwyr, graddedigion a chyflogwyr.”
Y llynedd, galwodd yr Ysgrifennydd Addysg ar brifysgolion Cymru i ailgysylltu â’r cymunedau o’u cwmpas.