Heddiw, anfonodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, neges yn dymuno lwc dda i bawb sydd yn rownd derfynol fawreddog Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru. Dyma wobrau hollol newydd.
Mae 17 o ysgolion a gweithwyr addysg proffesiynol heb eu hail ar restr fer, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad arbennig yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ddydd Sul 7 Mai.
Sefydlwyd y gwobrau gan Lywodraeth Cymru i gydnabod y goreuon ac er mwyn dathlu ymroddiad, ymrwymiad a pha mor ysbrydoledig yw addysgwyr yng Nghymru.
Mae panel o feirniad o bob cwr o Gymru wedi dewis 17 o gynigion ar gyfer 7 categori, sy’n cynnwys:
- Athro/athrawes y flwyddyn.
- Pennaeth y flwyddyn.
- Gwobr am hyrwyddo llesiant a/neu gynhwysiant disgyblion yn yr ysgol.
- Gwobr am gefnogi athrawon a dysgwyr.
- Gwobr ysgol gyfan am hyrwyddo cydberthnasau â rhieni a’r gymuned.
“Mae’r gwobrau mawreddog newydd hyn yn gyfle i ni ddiolch i’n hathrawon a’n gweithwyr addysg proffesiynol, a chydnabod y goreuon ym maes arweinyddiaeth ac addysgu yng Nghymru.
“Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phawb sydd yn y rownd derfynol yn y seremoni ddydd Sul. Pob lwc iddyn nhw a gobeithio y caiff pawb ddiwrnod i’w gofio.”
Bydd yr enillwyr yn cael ‘Griff’, gwobr i gofio Griffith Jones Llanddowror, a lwyddodd i droi Cymru yn un o wledydd mwyaf llythrennog y byd yn ystod y 1700au.