Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams yn cyhoeddi’r buddsoddiad unigol mwyaf mewn cymorth i athrawon

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Model Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol (NAPL), a gyhoeddir heddiw gan yr Ysgrifennydd Addysg, yn darparu £9 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, gan gynyddu i £15 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Hwn yw'r buddsoddiad unigol mwyaf mewn cefnogaeth i athrawon yng Nghymru ers datganoli.

Bydd yr arian yn rhoi'r amser a'r adnoddau sydd eu hangen ar ysgolion i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y cwricwlwm newydd a sicrhau bod newidiadau’n cael eu gwneud mewn ffordd a fydd yn blaenoriaethu lles athrawon ac yn aflonyddu cyn lleied â phosib ar ddysgu'r disgyblion. Bydd yr arian yn helpu i sicrhau bod staff yn cael eu rhyddhau ar gyfer dysgu proffesiynol hefyd.

O dan yr NAPL, bydd Dysgu Proffesiynol yn hawl i bob ymarferwr mewn ysgolion, nid athrawon yn unig.

Bydd ysgolion yn cael eu hannog hefyd i greu, rhannu a manteisio ar gyfleoedd dysgu gydag ysgolion a sefydliadau eraill wrth iddynt weithio gyda'i gilydd mewn clystyrau.

Un o nodweddion mwyaf trawiadol yr NAPL fydd dulliau cwbl newydd o ymdrin â’r ffordd y mae athrawon yn dysgu. Bydd cymysgedd llawer mwy hygyrch o ddysgu ar gael trwy ranbarthau a phrifysgolion Cymru. Bydd hyn yn cwmpasu dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, dysgu ar-lein, dysgu yn yr ystafell ddosbarth a hyfforddi cymhellol.

Bydd hyn yn sicrhau bod gan athrawon lawer mwy o hyblygrwydd ynglŷn â sut a phryd maen nhw’n dysgu.

Meddai'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

"Mae'r buddsoddiad mawr hwn yn dangos faint o bwys rydym yn ei roi ar ddysgu proffesiynol athrawon. Mae'n fuddsoddiad mewn rhagoriaeth a’n nod yw dim llai na gweddnewid sut mae athrawon yn dysgu’n llwyr; proses sy'n cychwyn o'r eiliad maen nhw’n dechrau addysg gychwynnol athrawon ac yn parhau gydol eu gyrfa.

"Mae hwn yn gyfnod o newid mawr yn ein system addysg a bydd yn amhosib cyflwyno’n cwricwlwm newydd heb weithlu addysg o ansawdd uchel. Dyna pam ein bod ni’n ei gwneud hi'n haws i athrawon ddysgu ac archwilio'r cwricwlwm, gan roi'r amser maen nhw ei angen iddynt heb amharu ar eu gwaith o ddydd i ddydd na dysgu’r disgyblion.

"Rydym hefyd yn rhoi'r opsiwn i ysgolion weithio gyda'i gilydd hefyd i'w helpu i wneud y newidiadau cyn dyfodiad y cwricwlwm newydd. Mae hyn yn golygu y gellir rhyddhau staff i fod yn rhan o ddysgu a chynllunio proffesiynol cydweithredol, gan fanteisio ar y gwaith ymchwil gorau sy’n seiliedig ar dystiolaeth."