Mae ysgolion ar fin derbyn £14 miliwn ar gyfer mân atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw o dan gynlluniau a gyhoeddwyd heddiw gan yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.
Caiff y cyllid ei wario ar bethau fel boeleri a gwaith plymio ar doiledau, costau gofalwyr, paentio ac addurno, plastro neu atgyweirio lloriau. Bydd hyn yn ategu gwaith i wella adeiladau ysgolion drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Awdurdodau Lleol fydd yn derbyn y cyllid yn y lle cyntaf, gan yna’i ddyrannu i’r ysgolion.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Dw i’n clywed yn aml, gan athrawon a phenaethiaid o bob cwr o’r wlad, fod amser ac arian yn mynd yn rhy aml ar gynnal a chadw ysgolion yn hytrach nag ar gefnogi dysgwyr.
“Felly, heddiw, dw i’n cyhoeddi £14 miliwn ychwanegol ar gyfer hyn, i’w roi’n uniongyrchol i ysgolion.
“Bydd hyn yn help gyda chostau cynnal a chadw a mân atgyweiriadau, gan leddfu’r pwysau ar gyllidebau ysgolion. Bydd pob ysgol, ledled Cymru, yn gallu manteisio ar yr arian hwn - bydd yn mynd ar ei union i’r rheng flaen.
“Gobeithio y gall awdurdodau anfon yr arian ymlaen at ysgolion cyn gynted â phosib er mwyn i waith pwysig gael ei wneud.”