Bydd y disgyblion mwyaf talentog yng Nghymru yn elwa ar £3 miliwn o gefnogaeth dros y ddwy flynedd nesaf. Dyma ran o'r cynlluniau a gyhoeddwyd heddiw gan yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.
Mewn datganiad yn y Cynulliad y prynhawn yma, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sôn am dri phrif egwyddor i ysgogi gwelliant:
- canfod y disgyblion mwy galluog a thalentog yn well a'u cefnogi ar lefel ysgol, rhanbarthol a chenedlaethol
- rhoi cyfleoedd i ysgogi'r lefelau uchaf o lwyddiant
- datblygu tystiolaeth i gefnogi buddsoddiad a gwaith pellach.
Gwnaethpwyd y cyhoeddiad am y buddsoddiad newydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet wrth iddi ymweld ag Ysgol Gyfun y Pant ym Mhont-y-clun. Mae'r ysgol wedi cydweithio â NACE (Cymdeithas Genedlaethol Plant Galluog mewn Addysg) i gael Gwobr Her NACE. Mae hyn yn cydnabod darpariaeth o ansawdd uchel i ddysgwyr mwy galluog a thalentog ar lefel ysgol gyfan.
Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn help i ddatblygu dull newydd o weithredu ar lefel genedlaethol ar gyfer canfod a chefnogi dysgwyr mwy galluog. Caiff hyn ei gefnogi gan ganllawiau newydd cynhwysfawr a bydd yn cynnwys diffiniad newydd o ddysgwyr mwy galluog, ac yn cefnogi ysgolion gyda’r gwaith hwn.
Cyhoeddwyd hefyd y bydd Rhwydwaith Seren, sy'n llwyddiannus iawn yn cefnogi'r disgyblion mwyaf disglair mewn chweched dosbarth yng Nghymru i gael mynediad i'r prifysgolion mwyaf blaenllaw, yn cael ei ehangu.
O fis Medi ymlaen, bydd y Rhwydwaith yn targedu dysgwyr iau, cyn eu TGAU. Bydd yn meithrin cysylltiadau rhwng dysgwyr o wahanol ysgolion a chymunedau ac yn cryfhau cysylltiadau presennol y Rhwydwaith Seren a'r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y byd.
Bydd y buddsoddiad o £3 miliwn hefyd yn cynnwys cyllid i ddatblygu polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgwyr mwy galluog a thalentog, gan sicrhau bod unrhyw fesurau yn y dyfodol yn seiliedig ar y dystiolaeth fwyaf dibynadwy.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Mae annog diwylliant sy'n cefnogi uchelgais i bob disgybl, athro ac ysgol yn hanfodol i'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg.
“Mae'n amlwg o adroddiadau blaenorol Estyn, PISA, ac ymchwil gan Ymddiriedolaeth Sutton a Choleg Prifysgol Llundain (UCL), bod rhaid i Gymru wneud mwy i ganfod, herio ac ymestyn ein disgyblion mwy abl.
“Mae'r buddsoddiad sy'n cael ei gyhoeddi gen i heddiw yn golygu y gallwn gyrraedd y dysgwyr hyn yn gynt o lawer. Mae modd inni felly sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a'r cyfleoedd i gyrraedd eu potensial llawn.
“Mae'r Rhwydwaith Seren eisoes yn gwneud cyfraniad hynod gadarnhaol o ran codi dyheadau, hybu hyder ac annog myfyrwyr ôl-16 i fod yn uchelgeisiol.
“Bydd ehangu'r rhaglen yn ein helpu i feithrin hyder yn y dysgwyr iau a dangos iddynt fod cyfleoedd ar gael iddynt nad ydynt yn ymwybodol ohonynt eto.
“Buddsoddiad ar gyfer y tymor hir yw hwn. Dyma'r ffordd i greu'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid, athrawon, gwyddonwyr a gweision sifil. Y genhedlaeth nesaf fydd yn gyfrifol am lwyddiant a ffyniant ein cenedl yn y dyfodol.
“Mae cael pethau'n iawn i'r dysgwyr hyn a'r disgyblion hynny sydd â'r potensial i fod fel y dysgwyr hyn yn golygu ei chael hi'n iawn i bawb.”