Mae cymhelliant ariannol o hyd at £20,000 ar gael i bob myfyriwr er mwyn denu’r graddedigion gorau i addysgu pynciau fel mathemateg, cemeg, ffiseg a chyfrifiadureg yng Nghymru.
Dengys y ffigurau diweddaraf fod cynnydd o 3.9% mewn ceisiadau i wneud cwrs hyfforddi athrawon ôl-raddedig a chynnydd o 2% yn y nifer sy’n cael eu derbyn ar gwrs yng Nghymru, gyda chyfanswm o 3,500 o geisiadau am leoliadau hyfforddi athrawon 2016/17.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y grant cymhelliant hyfforddi athrawon yn flynyddol i ddenu graddedigion sydd eisiau mynd ar gyrsiau ôl-raddedig er mwyn iddynt allu addysgu mewn dosbarthiadau yng Nghymru.
Mae’r cymhelliant ariannol mwyaf yn mynd i raddedigion sydd â gradd dosbarth cyntaf sy’n hyfforddi i addysgu ffiseg, cemeg, mathemateg, Cymraeg, cyfrifiadureg a ieithoedd tramor, ac mae cymhelliant ariannol ar gael i’r rhai sydd â gradd 2.1 a 2.2.
Dyma’r hyn sydd a’r gael i’r rheini sy’n dymuno cychwyn ar gyrsiau ym mis Medi 2017:
- Bydd cymhelliant ariannol o hyd at £20,000 ar gael i fyfyrwyr newydd sy’n cychwyn cyrsiau ôl-raddedig Addysg Gychwynnol i Athrawon yn y pynciau a ganlyn: Cymraeg, Ffiseg, Cemeg a Mathemateg.
- Bydd cymhelliant ariannol o hyd at £15,000 ar gael i’r rheini sy’n hyfforddi i addysgu ieithoedd tramor modern a TGCh.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Er mwyn creu system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol, rhaid i ni fedru denu’r graddedigion gorau posibl i fod yn athrawon.
“Mae’n bwysig, er bod nifer y swyddi gweigion ym maes addysgu yn gymharol isel yng Nghymru, ein bod yn denu graddedigion sydd â gwybodaeth arbenigol yn y pynciau sy’n flaenoriaeth gennym, fel mathemateg, ffiseg a chyfrifiadureg. Bydd y cymhelliannau ariannol hyn yn help i sicrhau hynny.
“Ochr yn ochr â’r gwaith o ddiwygio addysg gychwynnol i athrawon, safonau proffesiynol a dysgu proffesiynol, bydd y cymhelliannau hyn yn help i godi safon addysgu yng Nghymru fel rhan o’r ymgyrch genedlaethol i ddiwygio’r byd addysg.”