Kirsty Williams wedi nodi'r hyn a gyflawnwyd drwy genhadaeth genedlaethol Cymru ar gyfer addysg a beth mae'r newidiadau hyn yn ei olygu i ddisgyblion, athrawon a rhieni.
Ym mis Medi y llynedd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg genhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg y gall y genedl i gyd fod yn falch ohoni a bod a hyder ynddi.
Mewn cynhadledd a gynhaliwyd yng Nghaerdydd heddiw, eglurodd yr Ysgrifennydd Addysg sut mae newidiadau mawr i'r hyn y mae disgyblion yn ei ddysgu a sut y maent yn cael eu haddysgu, a hefyd sut mae eu hathrawon yn cael eu hyfforddi a'u datblygu, yn helpu i drawsnewid ysgolion.
Un o'r newidiadau mwyaf sylweddol a phellgyrhaeddol yw'r cwricwlwm newydd, a fydd yn cael ei gyflwyno o 2022. Mae dros 200 o ysgolion arloesi ar draws Cymru yn helpu i ddatblygu chwe Maes Dysgu a Phrofiad gwahanol. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys ymgorffori cymhwysedd digidol ym mhob agwedd ar addysgu a dysgu a chefnogi athrawon i ddatblygu'r cwricwlwm newydd.
Yn ôl adroddiad annibynnol newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae'r ysgolion hyn yn gefnogol iawn o'r newidiadau sy'n cael eu gwneud ac yn frwdfrydig iawn am eu rhan nhw yn y gwaith o ddatblygu cwricwlwm newydd Cymru.
Mae dysgu a datblygiad proffesiynol athrawon hefyd wedi bod yn allweddol ar gyfer cyflawni'r genhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg. Yn ystod y flwyddyn ysgol hon, cyflawnwyd y canlynol:
- Datblygu safonau proffesiynol newydd ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth ochr yn ochr â'r proffesiwn, i'r proffesiwn;
- Sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol i gefnogi pob arweinydd ym maes addysg ym mhob cam o'u gyrfaoedd;
- Rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon newydd achrededig i'w cyflwyno yn y flwyddyn academaidd 2019/20;
- Cynlluniau ar gyfer TAR rhan-amser newydd a llwybr newydd i addysgu sy'n seiliedig ar gyflogaeth o 2019/20.
Yn fuan bydd athrawon a disgyblion yn dechrau gweld manteision cronfa gwerth £36 miliwn i leihau maint dosbarthiadau babanod, gyda phenodiad dros 80 o athrawon newydd ar draws Cymru, a chronfa gyfalaf i adeiladu dosbarthiadau newydd.
Mae lleihau’r fiwrocratiaeth ddiangen ar athrawon yn parhau'n flaenoriaeth. Eleni, buddsoddwyd £1.2 miliwn er mwyn penodi rheolwyr busnes mewn ysgolion - gan helpu athrawon i reoli eu llwyth gwaith a chanolbwyntio ar godi safonau a gwella ysgolion.
Dywedodd Kirsty Williams:
"Pan gyhoeddais ein cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg ym mis Medi y llynedd, dywedais y na fyddem byth yn gallu cyflawni ein huchelgeisiau pe bawn yn aros yn llonydd.
"Dyma pam ein bod wedi dechrau creu momentwm yn y flwyddyn ddiwethaf - awydd i hunanwella sy'n ymestyn drwy ein system addysg gyfan.
"Mae llawer o waith ar ôl i'w wneud, ond rwy'n hynod falch o'r diwygiadau rydym eisoes wedi'u cyflwyno mewn cyfnod cymharol fyr. Hefyd, rwyf wir wedi fy mhlesio'n arw â'r ffordd y mae pawb yn y system addysg wedi ymateb i'r her.
"Pan fyddaf yn ymweld ag ysgolion ac yn siarad â'r athrawon a'r disgyblion, rwy'n cael fy syfrdanu gan yr hyn y maent yn ei gyflawni a sut maent yn gwella - boed o ran datblygu'r cwricwlwm neu ganfod ffyrdd newydd o addysgu a dysgu.
"Yn gyfnewid, rydym yn cyflwyno'r newidiadau mwyaf cynhwysfawr i addysg a datblygiad athrawon ers blynyddoedd, gan sicrhau bod ein proffesiwn addysgu'n gwbl barod pan fyddant yn dechrau cyflwyno ein cwricwlwm newydd.
"Mae ein hysgolion yn newid, mae addysg yng Nghymru'n newid, ac rwy'n hyderus bod ein cenhadaeth genedlaethol ar y trywydd iawn i gyflawni'r diwygiadau sylweddol sydd eu hangen."