Dylai tegwch, rhagoriaeth a mwy o annibyniaeth i ysgolion fod yn nodweddion sy'n cael eu dathlu o fewn system addysg fodern.
Bydd yn sôn am ymgynghoriad a gaiff ei gynnal cyn hir ynghylch a ddylid ychwanegu darpariaeth chweched dosbarth at gylch gwaith yr awdurdod newydd dros addysg a hyfforddiant ôl-16, a fydd hefyd yn cynnwys addysg bellach ac uwch.
Wrth amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi safonau i bawb mewn system gyfun nad yw'n derbyn disgyblion ar sail gallu academaidd, bydd yr Ysgrifennydd Addysg yn pwysleisio manteision "economi gymysg" ysgolion, colegau a phrifysgolion yng Nghymru.
Bydd hefyd yn nodi'r cyfeiriad rydym am ei ddilyn o ran:
- System atebolrwydd ddiwygiedig ar gyfer ysgolion sy'n mesur cynnydd pob dysgwr
- Mwy o ryddid i ysgolion o ran dangosyddion y cwricwlwm mewn perthynas â mesurau perffomiad
- Gwell mesurau o ran perfformiad ôl-16 ar draws dosbarthiadau chwech a'r sector addysg bellach
O ran y berthynas rhwng dosbarthiadau chwech, colegau addysg bellach a Chomisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, bydd yr Ysgrifennydd Addysg yn dweud:
"Dw i'n un sy'n gefnogol i ddosbarthiadau chwech, ac fe fydda i bob amser. Dw i hefyd yn credu'n gryf mewn cael cymysgedd dda o ddarpariaeth addysg a hyfforddiant ôl-16.
"Mae angen llawer mwy o gysondeb arnon ni wrth gefnogi ein dysgwyr drwy'r rhan hanfodol hon o'u haddysg, ac ymlaen ar hyd y llwybr y byddan nhw'n penderfynu arno.
"Fe fyddai cynnwys y chweched dosbarth o fewn cylch gwaith yr awdurdod newydd nid dim ond yn rhoi gwell darlun inni o sut mae'r sector yn perfformio yn gyffredinol, ond byddai hefyd yn helpu darparwyr i gydweithio, gan leihau dyblygu a chystadleuaeth."
O ran ei hymrwymiad i system deg, ragorol, bydd yn dweud:
"Dydyn ni ddim yn rhoi'r gorau i helpu unrhyw un, yn unrhyw le. Mae gyda ni ddisgwyliadau uchel, a'r gefnogaeth iawn, ar yr adeg iawn, i bob myfyriwr, ysgol a lleoliad.
"Dw i'n cydnabod bod system gyfun nad yw'n derbyn disgyblion ar sail gallu academaidd yn dod â'i heriau, o gymharu â systemau eraill. Ond rydyn ni'n teimlo ei bod yn system sy'n seiliedig ar yr hyn sy'n foesol gywir. Fel gwlad fach, allwn ni ddim gadael unrhyw un ar ôl.
"Efallai nad ydyn ni'n treulio'r rhan fwyaf o'n hamser a'n hynni yn trafod strwythurau, fel sy'n digwydd yr ochr arall i'r ffin - ond dydy hynny ddim yn golygu ein bod yn trin pawb yn yr un ffordd. Mae system gyfun flaengar yn system sy'n rhoi sylw i anghenion a gofynion pob dysgwr ar eu taith addysg."