Neidio i'r prif gynnwy

Mae ysgol ym Margoed wedi cael ymweliad arbennig gan yr Ysgrifennydd Addysg newydd Kirsty Williams a agorodd eu cyfleusterau newydd yn swyddogol heddiw (Dydd Iau 23 Mehefin).

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Agorodd y Gweinidog y Ganolfan Adnoddau Dysgu newydd yn Ysgol Gyfun Heolddu, yn ogystal â'r adran Technoleg a Chelf yn yr ysgol sydd wedi cael ei hadnewyddu. Mae'r datblygiadau hyn, sydd wedi costio £150,000, wedi cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Ganolfan Adnoddau Dysgu wedi cael ei chynllunio i ddarparu amgylchedd mwy modern ar gyfer y disgyblion i'w helpu gyda'u hastudiaethau. Nod y Ganolfan yw darparu man lle y gall disgyblion gael cyngor, lle mae llythrennedd yn cael ei hyrwyddo, a lle gall y disgyblion hynny sydd wedi colli diddordeb yn eu hastudiaethau gael eu hannog i ailgydio.

Y llynedd, datblygodd y staff gynllun a llwyddo i sicrhau arian gan Lywodraeth Cymru i foderneiddio nifer o adrannau yn yr ysgol i wella'r amgylchedd a chyraeddiadau'r disgyblion. 

Dywedodd Kirsty Williams:

“Dw i eisiau diolch i'r disgyblion a'r staff am estyn croeso cynnes i mi. Maen nhw wedi gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r cyfleusterau newydd gwych yma er mwyn rhoi'r cyfle gorau i ddisgyblion yn yr ysgol hon i lwyddo. Mae'n hanfodol ein bod ni'n darparu'r cyfleusterau gorau posibl ar gyfer ein pobl ifanc, er mwyn rhoi'r profiad dysgu a’r sgiliau gorau iddyn nhw.

“Dw i wedi bod yma o'r blaen, ac mae'n braf gweld y gwelliannau a'r cynnydd sy'n digwydd, nid dim ond yn yr adeilad, ond hefyd o ran cyflawniad y disgyblion. Mae hyn i gyd wedi digwydd oherwydd ymroddiad a gwaith caled ar ran pawb yn yr ysgol. Pob lwc i chi i gyd gyda'r canlyniadau yn yr haf ac i’r dyfodol.

“O safbwynt ein hysgolion, dw i eisiau cael y pethau sylfaenol yn iawn. Dw i eisiau i benaethiaid gael arwain ac i athrawon gael addysgu, gan ofalu bod llais rhieni a disgyblion wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud. Arwyddair Ysgol Heolddu yw ‘Cyfle i bawb’ a galla i weld bod pob un ohonoch chi yn awyddus i gyrraedd y nod hwnnw, uchelgais rwy'n cytuno'n llwyr â hi."