Kirsty Williams AS Y Gweinidog Addysg
Cynnwys

Cyfrifoldebau'r Gweinidog Addysg
Cynnwys
Bywgraffiad
Mae Kirsty Williams wedi bod yn Weinidog Addysg Cymru ers mis Mai 2016. Ymunodd â’r llywodraeth yn sgil cytundeb gyda’r cyn-Brif Weinidog, gan arwain “ymgyrch genedlaethol i ddiwygio addysg” ar bob lefel.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog presennol a’r Gweinidog Addysg eu hymrwymiad i’r cytundeb blaengar hwn ym mis Rhagfyr 2018, a’i ddiweddaru i gynnwys blaenoriaethau a chyfrifoldebau addysg ychwanegol, gan gynnwys addysg bellach, gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesi.
Ms Williams sy’n arwain rhaglen addysg y Llywodraeth, sy’n cynnwys lleihau maint dosbarthiadau babanod, cyflwyno’r system cymorth i fyfyrwyr fwyaf teg a blaengar yn Ewrop, a thrawsnewid y cwricwlwm ysgol.
Mae wedi bod yn cynrychioli Brycheiniog a Sir Faesyfed fel Aelod o’r Senedd ers 1999, a hi oedd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o 2008 i 2016. Hi oedd y fenyw gyntaf i arwain plaid wleidyddol yng Nghymru. Mae‘n briod â ffermwr ac mae ganddynt dair o ferched. Maent yn byw ar fferm y teulu y tu allan i Aberhonddu.
Cyfrifoldebau
- Llywodraethu ysgolion, trefniadaeth ysgolion a derbyniadau i ysgolion
- Safonau ysgolion, gwelliannau a chyrhaeddiad disgyblion, gan gynnwys y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion
- Cylch gwaith Estyn
- Cyllido ysgolion
- Y cwricwlwm ac asesu hyd at a chan gynnwys Safon Uwch
- Addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog
- Y Cyfnod Sylfaen
- Anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys anghenion disgyblion sydd ag anawsterau dysgu difrifol, cymhleth a/neu benodol, disgyblion anabl, a disgyblion abl a thalentog
- Cymorth i bobl â Dyslecsia
- Diogelwch a chynhwysiant plant a phobl ifanc mewn ysgolion, gan gynnwys diogelwch ar y rhyngrwyd
- Cwynion ynghylch Awdurdodau Addysg Lleol a chyrff llywodraethu ysgolion
- Cyflwyno a rheoli'r rhaglen addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif
- Noddi Cymwysterau Cymru
- Hyfforddi a datblygu'r gweithlu addysg, gan gynnwys hyfforddiant cychwynnol athrawon
- Cyflogau ac Amodau Athrawon
- Addysg Bellach
- Cymorth i fyfyrwyr Addysg Bellach: y Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru
- Polisi gwaith ieuenctid
- Dysgu Oedolion yn y Gymuned
- Y Fframwaith Credydau a Chymwysterau gan gynnwys cymwysterau sgiliau galwedigaethol, allweddol a hanfodol
- Cyrsiau dysgu ar gyfer carcharorion
- Polisi, strategaeth a chyllido addysg uwch
- Addysg Feddygol (ac eithrio hyfforddiant ôl-radd)
- Gwyddoniaeth: datblygu polisi gwyddoniaeth, gan gynnwys cyswllt o ddydd i ddydd â Phrif Gynghorydd Gwyddonol Cymru a'r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol
- Gwyddorau Bywyd
- Ymchwil ac Arloesi, gan gynnwys ymchwil a datblygu, trosglwyddo gwybodaeth a masnacheiddio; sicrhau bod yr incwm mwyaf posibl yn deillio o waith ymchwil ac arloesi; a Chanolfannau Rhagoriaeth Ymchwil
- Denu myfyrwyr ymchwil lefel uwch i Gymru, eu datblygu a’u cadw