Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cynlluniau ar gyfer Canolfan i’r Diwydiannau Creadigol yng Ngorllewin Cymru yn derbyn £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn ystyried achos busnes gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i neilltuo £3 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi Yr Egin - prosiect fydd yn sefydlu canolfan arloesol ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yng Nghaerfyrddin.

Wrth drafod ei benderfyniad, dywedodd Ken Skates: 

“Wedi ystyried manteision economaidd, diwylliannol ac addysgol y prosiect hwn, rwy’n oil  o gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £3 miliwn yn 2017/18 i gefnogi Yr Egin. 

“Bydd y buddsoddiad yn helpu i ddarparu’r seilwaith sydd ei angen i gefnogi gweledigaeth y Brifysgol o glwstwr o fusnesau creadigol yng Nghaerfyrddin.   

“Bydd hyn yn ei dro yn helpu i ddod â bywyd newydd i’r economi leol, dod â swyddi ychwanegol o safon uchel i Gaerfyrddin a hyrwyddo enw da Cymru fel gwlad sy’n hybu doniau, dychymyg a chynhyrchiant.  

“Mae hefyd yn cefnogi ein hymrwymiad ehangach o hyrwyddo y Gymraeg fel iaith fyw a ffyniannus, a bydd yn helpu i gryfhau’r cysylltiad rhwng y byd academaidd a busnesau creadigol.   

“Bydd ein cefnogaeth i Yr Egin yn helpu Caerfyrddin i elwa ac adeiladu ar benderfyniad S4C i symud ei bencadlys yno, gan oil le a chyfleoedd i fusnesau eraill, y Brifysgol, myfyrwyr ac entrepreneuriaid i rwydweithio.”   

Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £3 miliwn yn helpu i godi adeilad newydd i roi llety i gwmnïau, unedau hybu i ddatblygu busnesau newydd yn y sectorau creadigol a digidol yn ogystal â lle ar gyfer digwyddiadau, neuadd gyngerdd agored, ac ystafelloedd cynhyrchu a golygu i’w defnyddio gan gwmnïau yn ogystal â’r Brifysgol.