Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cyhoeddi aelodau Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) a byddant yn cyfarfod am y tro cyntaf heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) i roi cyngor annibynnol, yn seiliedig ar well gwybodaeth, ar strategaeth fwy hirdymor ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith a fydd yn ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae wedi ei sefydlu fel corff cynghori anstatudol i roi cyngor ac argymhellion i Weinidogion Cymru ar anghenion economaidd ac amgylcheddol Cymru dros bum i dri-deg mlynedd. Bydd y Comisiwn hefyd yn ystyried y cysylltiadau rhwng yr anghenion hynny a 'seilwaith cymdeithasol'; megis ysgolion, ysbytai a thai.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Roedd safon yr ymgeiswyr am y swydd hon drwy'r broses benodi gyhoeddus yn uchel, ac rwyf am ddiolch i bawb gymerodd yr amser i ddatgan eu diddordeb.  

"Pleser yw penodi grŵp o Gomisiynwyr sydd a’r fath arbenigedd a phrofiad. Dwi’n edrych ymlaen at dderbyn eu cyngor ac yn siŵr y byddant yn gwneud cyfraniad mawr i les Cymru drwy wella seilwaith."

Roedd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, eisoes wedi penodi Mr John Lloyd Jones OBE, FRAgS, Hon FLl yn Gadeirydd y Comisiwn.

Dywedodd Mr Lloyd Jones:

“Braint yw arwain grŵp mor ddawnus ac abl o gomisiynwyr. Bydd ein cyfarfod cyntaf yn gyfle i ni gyflwyno ein hunain. Ar ôl hyn, rydym yn edrych ymlaen at gyfrannu’n fawr at ddatblygu seilwaith Cymru ar gyfer yr hirdymor.”