Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi nodi'n swyddogol fod gwaith yn dechrau ar gynllun diwydiannol newydd pwysig 81,000 troedfedd sgwâr yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r safle, a enwyd yn Boundary Park, yn fenter ar y cyd gan Trebor a Maple Grove Developments ac mae'n cael £3 miliwn o gymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru ar ffurf Grant Datblygu Eiddo.  

Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y safle yn darparu seilwaith eiddo newydd yn ardal Glannau Dyfrdwy mewn partneriaeth â'r sector preifat, gan gefnogi'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

Eric Wright Construction fydd yn adeiladu'r datblygiad, a fydd yn darparu unedau diwydiannol o ansawdd uchel yn amrywio o 10,000 troedfedd sgwâr i 50,000 troedfedd sgwâr ac a fydd ar gael fel lesddaliad neu rydd-ddaliad. 

Disgwylir i'r unedau fod yn barod yn gynnar yn y flwyddyn newydd. 

Dywedodd Ken Skates:

“Mae helpu busnesau i dyfu drwy sicrhau bod safleoedd parod i fuddsoddi ynddyn nhw ar gael mewn lleoliadau allweddol fel Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy yn elfen bwysig o 'Nghynllun Gweithredu ar yr Economi, ac mae'n bleser mawr cael nodi bod gwaith wedi dechrau ar y cynllun hwn. 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hybu ffyniant ein hardaloedd menter yn y dyfodol ac mae'r buddsoddiad hwn yn enghraifft glir o hynny. Mae'r gwaith o ddarparu safleoedd ac adeiladau newydd yn cael ei gefnogi hefyd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a chan Gynnig Twf Gogledd Cymru, ac mae'n un o'u blaenoriaethau ar gyfer y rhanbarth. 

“Bydd yr unedau diwydiannol hyn yn cynnig lle ardderchog a byddan nhw'n ffordd ddelfrydol o ddiwallu anghenion busnesau. 

“Byddwn ni'n dal i fynd ar drywydd cyfleoedd fydd yn helpu'n heconomi i dyfu a dw i'n edrych 'mlaen at weld y datblygiad hwn yn cael ei gwblhau y flwyddyn nesa'.

Dywedodd Bob Tattrie, Partner Rheoli Trebor Developments, ar ran partneriaid JV:

“Dan ni'n hynod falch o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r cynllun diwydiannol mentrus hwn. Mae'n un uchel ei ansawdd a bydd yn darparu nifer o unedau, yn amrywio o 10,000 troedfedd sgwâr i 50,000 troedfedd sgwâr, i helpu'r deiliaid i ehangu ac i ffynnu yn yr ardal. Dan ni'n  cynnig telerau cystadleuol ar lesddaliadau neu rydd-ddaliadau ar gyfer adeiladau newydd o ansawdd rhagorol.