Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth wedi ymweld â Llanrwst i weld y gwaith atgyweirio sy'n cael ei wneud i reilffordd Dyffryn Conwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Penllanw a system pwysedd isel yn sgil storm Gareth ym mis Mawrth oedd yn gyfrifol am y difrod i chwe milltir o'r trac.

Clywodd y Gweinidog hefyd fod 40 o ddiffygion unigol, ac effeithiwyd ar wyth croesfan a dwy orsaf.

Mae contractwyr ar hyn o bryd yn atgyweirio pob adran ac yn ailadeiladu'r argloddiau a'r cwlfertau sydd wedi'u dinistrio.

Mae Network Rail yn gweithio i ailagor y rheilffordd cyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Llanrwst.

Mae llawer o'r deunyddiau a ddinistriwyd wedi'u symud ymaith bellach i'w hailgylchu yn Chwarel Penmaenmawr.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates:

"Fe welais â llygaid fy hun sut roedd y tywydd eithafol a gawsom ym mis Mawrth wedi achosi cryn dipyn o ddifrod i reilffordd Dyffryn Conwy.

"Dyma reilffordd hanfodol ac er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw atgyweirio, rwy'n gwybod bod Network Rail a Trafnidiaeth Cymru yn gweithio’n agos ac yn gwneud eu gorau glas i sicrhau bod teithwyr yn dal yn gallu teithio tra bo gwaith adfer sylweddol yn cael ei wneud.

"Mae Network Rail yn gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod y rheilffordd yn gallu ymdopi'n well ag unrhyw lifogydd yn y dyfodol.

"Rwy'n falch bod cyfarfodydd cymunedol rheolaidd yn cael eu cynnal i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion a theithwyr ac mae'r gwaith yn parhau i agor y rheilffordd cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr haf.

"Hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys y contractwyr, sy'n gweithio i ail-agor y rheilffordd ac sy'n rhan o'r gwaith adfer.

Ychwanegodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

"Rydym yn falch bod ein partneriaid yn Network Rail yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn ar reilffordd Dyffryn Conwy.

"Rydym yn deall pwysigrwydd y rheilffordd hon ac yn ymrwymedig i sicrhau bod teithwyr yn dal yn gallu teithio drwy ddarparu bysiau yn lle trenau pan fo'r rheilffordd ar gau.

"Rydym yn ymddiheuro i'r rheini yr effeithiwyd arnynt ac yn argymell bod ein cwsmeriaid yn edrych ar-lein am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.

Meddai Bill Kelly, rheolwr-gyfarwyddwr llwybrau Network Rail Cymru a'r Gororau:

"Rydym y cydnabod pa mor bwysig yw'r rheilffordd hon i deithwyr a'r gymuned leol ac yn ymddiheuro i'r rheini yr effeithiwyd arnynt.

"Rydym wedi gwneud cynnydd da ar y safle ac yn parhau i weithio'n galed i ail-agor yr adran rhwng Llandudno a Llanrwst yn gynnar yn yr haf, cyn yr Eisteddfod er mwyn sicrhau bod teithwyr yn gallu cyrraedd y digwyddiad pwysig iawn hwn.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid, Trafnidiaeth Cymru, i sicrhau bod teithwyr yn dal yn gallu teithio drwy ddarparu bysiau pan fo angen cau'r rheilffordd ac rydym yn cydweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod y rheilffordd newydd mor gadarn â phosibl.