Mae cludwyr nwyddau a busnesau sy’n masnachu rhwng Prydain a’r UE dan faich biwrocratig trwm ac mae hynny’n cael effaith anghymarus ar borthladdoedd Cymru. Rhaid gwneud rhywbeth ynglŷn â hyn meddai Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates heddiw mewn llythyr at Lywodraeth y DU.
Oherwydd y beichiau cynyddol a ddaeth yn sgil penderfyniadau Llywodraeth y DU ynghylch sut i ymadael â’r UE, mae cwmnïau cludo bellach yn osgoi’r “bont dir” rhwng Gweriniaeth Iwerddon a’r cyfandir ac mae mwy a mwy o fferïau yn hwylio’n syth o’r UE i Iwerddon.
Ceir adroddiadau hefyd bod traffig a arferai deithio o Gymru i ogledd Iwerddon trwy Weriniaeth Iwerddon nawr yn teithio trwy ogledd Lloegr neu’r Alban yn syth i ogledd Iwerddon os ydyn nhw’n mynd o gwbl.
Roeddem yn disgwyl y byddai’r llif traffig yn isel ar ddechrau’r mis ond gyda diwedd y mis ar ein gwarthaf, mae’r gostyngiadau o rhwng 50% i 70% yn destun pryder.
Dywedodd Ken Skates:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth a all i helpu busnesau i gynefino a dod i ddeall y prosesau newydd ar y ffin sy’n ganlyniad i’r dewisiadau a wnaeth Llywodraeth y DU ynghylch sut i adael yr UE. Nid problemau cychwynnol mo’r prosesau hyn, nhw yw canlyniadau parhaol penderfyniadau Llywodraeth y DU.
“Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw’r systemau hyn, ac mae angen hyfforddiant a chefnogaeth i wneud yn siŵr bod busnesau a chwmnïau cludo’n hyderus wrth ddefnyddio’r prosesau newydd ar y ffin i gadw nwyddau i symud mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.
“Mae’r sôn bod llai o gludiant nwyddau i ogledd Iwerddon yn creu pryderon nad yw’r prosesau y mae Llywodraeth y DU wedi’u rhoi yn eu lle yn ddigon i beidio ag amharu ar y traffig rhwng gogledd Iwerddon a Chymru ac mae hynny’n annerbyniol.
“Rwyf wedi anfon llythyr at Lywodraeth y DU heddiw i ofyn beth yw eu cynlluniau ar gyfer gwyrdroi’r gostyngiad cyson hwn ym mhorthladdoedd Cymru. Rhaid iddynt esbonio hefyd sut y maent am ddigolledu’r cymunedau hynny sydd wedi dioddef fwyaf oherwydd y polisïau y maen nhw wedi’u dewis.
“Porthladdoedd Cymru yw’r ffordd gyflymaf a hwylusaf rhwng Iwerddon a’r DU ac ymlaen i’r UE. Rwy’n galw ar Lywodraeth y DU i weithredu nawr i sicrhau bod y llwybrau strategol bwysig hyn a’r cymunedau sy’n dibynnu arnynt yn cael eu cefnogi a’u hamddiffyn.