Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu y dylai gael y £700m yr amcangyfrifir y bydd Llywodraeth y DU yn eu harbed drwy roi'r gorau i'r cynllun hirddisgwyliedig i drydaneiddio'r brif reilffordd yn Ne Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates y dylid hefyd bwrw ymlaen ar unwaith â chynigion hirddisgwyliedig i ddatganoli pwerau dros y seilwaith rheilffyrdd i Weinidogion Cymru.    

Mewn llythyr at Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Chris Grayling AS, dywedodd Ken Skates fod y penderfyniad yn un “siomedig tu hwnt”, gan fynnu atebion ar sut a phryd y byddai cymunedau yng Nghymru yn gweld yr arian a addawyd er mwyn trydaneiddio'r brif linell reilffordd i Abertawe.

Ysgrifennodd Ken Skates:

"Cyhoeddwyd yn 2012 y byddai cyllid ar gael i drydaneiddio’r llinell reilffordd i Abertawe, a gwnaed datganiad i'r un perwyl yn 2014 gan David Cameron, y Prif Weinidog ar y pryd. Gwnaed ymrwymiad i ddarparu £105 miliwn er mwyn trydaneiddio'r Brif Linell rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, ac roedd yn rhan o fuddsoddiad ehangach o ryw £700 miliwn er mwyn trydaneiddio'r llinell reilffordd i Abertawe.  

"Byddai'r cynllun wedi arwain at fanteision mawr o ran amserau teithio, dibynadwyedd, effeithlonrwydd ac allyriadau, gan hybu twf economaidd ar draws De Cymru. Roedd yn destun siom aruthrol fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi − a hynny drwy’r wasg a heb unrhyw rybudd ymlaen llaw − fod y cynllun hwn yn cael ei ganslo.  

"Nid oedd y cyhoeddiad a wnaed ddoe yn amlinellu sut y byddai’r swm o £105 miliwn a addawyd yn cael ei ddyrannu i Lywodraeth Cymru ’nawr bod y cynllun i drydaneiddio’r llinell rhwng Caerdydd ac Abertawe yn cael ei ganslo. Nid oedd ychwaith yn mynd i'r afael â'r tanwario hanesyddol hynod niweidiol yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn.

"Mae teithwyr ledled Cymru yn dioddef am nad yw'r rhwydwaith yn ddibynadwy, am nad yw trenau'n gallu teithio'n gyflym, ac oherwydd cyfyngiadau ar gapasiti. Mae hynny'n golygu bod cyfran lai o lawer o bobl yn dewis teithio ar y trên nag yn Lloegr a'r Alban. Mae'n hanfodol bod ein seilwaith rheilffyrdd yn cael y cyllid y mae ei angen arno ar fyrder fel y bo modd darparu'r gwasanaethau cyflym, dibynadwy a mynych y mae eu hangen arnom i gefnogi'n cymunedau a'n busnesau, ac i ddatblygu'n heconomi."

Er bod y llinellau rheilffordd yng Nghymru yn rhyw 11 y cant o rwydwaith rheilffordd y DU, dim ond tua 1.5 y cant o'r arian a wariwyd gan Lywodraeth y DU ar wella'r rheilffyrdd sydd wedi dod i Gymru ers 2011.

Ychwanegodd:

"Mae hynny'n niweidio'n heconomi a'n cymunedau. Naill ai mae angen buddsoddi ar fyrder i wneud iawn am y tanwario hanesyddol hwn ac am y ffaith bod Cymru £700 miliwn ar ei cholled, neu dylid bwrw ymlaen ar unwaith â'r cynigion hirddisgwyliedig i ddatganoli pwerau dros y seilwaith rheilffyrdd i Weinidogion Cymru, gan roi setliad ariannu teg a chymesur ar yr un pryd.  

"Byddwn yn croesawu ymrwymiad gennych er mwyn sicrhau bod y swm o ryw £700 miliwn a fyddai wedi cael ei ddarparu er mwyn trydaneiddio'r llinell rheilffordd i Abertawe, yn cael ei glustnodi ar gyfer prosiectau yng Nghymru. Rhaid sicrhau hefyd fod cyfran deg o gyllid yn cael ei dyrannu i Gymru ar gyfer cynlluniau eraill i wella'r rheilffyrdd yn y dyfodol."