Heddiw, gwnaeth Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates, dorri'r dywarchen gyntaf yng Nghyffordd 28 yr M4 i nodi dechrau'r gwaith gwerth £13.7 miliwn i wella'r safle.
ydd y prosiect 16 mis yn gwella'r safle at safonau modern, yn cynyddu faint o draffig all deithio trwy Gyffordd 28 Parc Tredegar, yr A467 Basaleg, a chylchfannau'r Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol a Phont Ebwy. Bydd goleuadau traffig parhaol sydd wedi'u cysylltu â'r tair cylchfan yn cael eu gosod. Bydd y rhain yn cynnwys signalau clyfar sy'n ymateb yn awtomatig i lif y traffig.
Bydd lonydd ar gau yn ystod adegau tawel rhwng 9:30 a 15:30 ac ar adegau dros nos neu dros y penwythnos er mwyn hwyluso'r gwaith adeiladu pan fydd llai o draffig. Bydd rhybudd ymlaen llaw yn cael ei ddarparu.
Dywedodd Ken Skates:
“Rwy'n falch fy mod yn gallu nodi dechrau gwaith y prosiect pwysig hwn.
"Mae cyffordd 28 presennol yr M4, yn ogystal â'r cylchfannau gerllaw ym Masaleg a Phont Ebwy yn cael eu defnyddio gan dros 6,000 o gerbydau'r awr yn ystod adegau prysur.
"Yn strategol, y gyffordd hon yw'r prif gyswllt rhwng yr M4 â'r brif ardal cyflogaeth yng ngorllewin Casnewydd. Mae hefyd yn darparu cyswllt gogledd-de rhwng dwyrain y Cymoedd a gorllewin Casnewydd.
"Rwy'n credu bod gwella'r tair cyffordd hyn yn rhan bwysig o'n rhaglen adfywio economaidd yn yr ardal, gan ddarparu mynediad at swyddi, teithiau diogel a dibynadwy a chydnerthedd gwell. Rwy'n edrych ymlaen at ddychwelyd pan fydd y gyffordd newydd yn agor y flwyddyn nesaf ac i weld y cymunedau lleol yn manteisio ohoni."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox:
"Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i wneud gwelliannau sydd mawr eu hangen i Gyffordd 28.
"Fel canolfan busnes bwysig a strategol, mae Cyffordd 28 yn gartref i rai o sefydliadau mwyaf Casnewydd. Bydd gwella faint o draffig sy'n gallu teithio drwy'r rhan hon o'r ddinas bob dydd yn gwella'r profiad gyrru'n fawr ar ein rhwydwaith ffyrdd strategol.
"Mae'r cynlluniau wedi cael eu croesawu gan gymudwyr, busnesau a chyngor y ddinas wrth i ni ymdrechu i ddenu rhagor o fewnfuddsoddiad i’r ardal."