Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir y Fflint, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thor-faen fydd yn cael arian o Gronfa'r Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol eleni.
Prif ffocws y gronfa eleni fydd gwneud bysiau'n fwy dibynadwy a lleihau amserau teithio trwy eu gwneud yn fwy hygyrch, lleihau tagfeydd ac integreiddio gwahanol fathau o drafnidiaeth.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates:
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates:
"Rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi'r cynlluniau hyn, fydd yn gwella teithiau bws ar ffyrdd strategol Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ledled Cymru.Dyma'r prosiectau fydd yn cael arian o Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol 2017-18:
"Mae cyhoeddiad heddiw'n cynnwys arian ar gyfer nifer o brosiectau gan gynnwys atebion technegol a mesurau i roi blaenoriaeth i fysiau a gwella cyffyrdd i helpu'r diwydiant bysiau ac i ehangu apêl bysiau fel ffordd ddeniadol a dibynadwy o deithio.
"Rwy'n disgwyl ymlaen at weld y prosiectau hyn ar eu traed yn fuan er mwyn i gymunedau allu gweld manteision y gwelliannau."
- £100,000 ar gyfer Datblygiadau i Gynyddu Nifer Teithwyr ar goridorau bysiau strategol y B5129
- £617,000 ar gyfer Pecyn Trafnidiaeth Integredig yng Nghastell-nedd Port Talbot
- £425,000 ar gyfer Gwelliannau i Deithwyr ar Goridor TrawsCymru trwy wella hygyrchedd ym Mhowys
- £600,000 ar gyfer Gwelliannau i Goridorau Bysiau'r A4119 ac A4059 yn Rhondda Cynon Taf
- £1,000,000 ar gyfer Coridorau Bysiau Strategol a Hybiau Trafnidiaeth Gyhoeddus yn Abertawe
- £15,500 ar gyfer gwella cyffyrdd Union Street / Broad Street, Abersychan.