Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi cyfarfod heddiw â chynrychiolwyr allweddol o'r diwydiant modurol yn sgil cyhoeddiad diweddar Honda.
Trafodwyd y modd y gall Llywodraeth Cymru helpu'r diwydiant wrth iddo wynebu'r heriau sydd ynghlwm wrth Brexit a'r ffaith bod technolegau yn newid mor gyflym.
Gan y bydd penderfyniad Honda i gau ei gyfleuster yn Swindon yn effeithio ar tua 2,000 o swyddi cyflenwi yng Nghymru, a chan fod gwneuthurwyr eraill fel Nissan a Ford wedi mynegi awydd i ailedrych ar y modd y byddant yn gweithredu yn y dyfodol, roedd Gweinidog yr Economi'n awyddus i sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n parhau i wneud popeth posibl i sicrhau bod y diwydiant modurol yng Nghymru yn parhau i ffynnu.
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Ken Skates:
Gan y bydd penderfyniad Honda i gau ei gyfleuster yn Swindon yn effeithio ar tua 2,000 o swyddi cyflenwi yng Nghymru, a chan fod gwneuthurwyr eraill fel Nissan a Ford wedi mynegi awydd i ailedrych ar y modd y byddant yn gweithredu yn y dyfodol, roedd Gweinidog yr Economi'n awyddus i sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n parhau i wneud popeth posibl i sicrhau bod y diwydiant modurol yng Nghymru yn parhau i ffynnu.
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Ken Skates:
"Gwnes groesawu'r cyfle i gyfarfod heddiw â Fforwm Modurol Cymru ac ag unigolion eraill er mwyn trafod eu pryderon a'u gobeithion o ran dyfodol y diwydiant modurol yng Nghymru."Mae tua 150 o gwmnïau yn rhan o ddiwydiant modurol Cymru sy'n cyflogi bron i 19,000 o bobl - 13% o weithlu gweithgynhyrchu Cymru. Mae'r gweithlu yma'n cynhyrchu gwerth dros £3 biliwn o refeniw ac maen nhw'n gweithgynhyrchu tua 30% o'r 2.7 miliwn o beiriannau a gynhyrchir yn y DU.
"Heb unrhyw amheuaeth mae'r diwydiant modurol yn wynebu cyfnod o newid cyflym ar hyn o bryd, ac mae datblygiadau technolegol ar raddfa fawr a safonau amgylcheddol mwy cadarn yn creu cyfleoedd yn ogystal â heriau.
"O ystyried hefyd bosibilrwydd rhwystrau tariff a dim tariff newydd a chostau os bydd y DU yn ymadael â'r UE heb fynediad at y Farchnad Sengl Ewropeaidd, mae'n sicr yn gyfnod o newid ac yn gyfnod ansicr iawn i'r sector.
"Rydw i a Llywodraeth Cymru wedi cynnig cryn gefnogaeth i'r diwydiant modurol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae cyfarfod heddiw yn tystio i'n hawydd i gefnogi'r sector wrth iddo wynebu heriau'r dyfodol. Mae gan Gymru y sgiliau, y gadwyn gyflenwi, yr arbenigedd a'r awydd i arloesi a all helpu'r diwydiant yma i ffynnu. "Mae angen bellach gyfarwyddyd ac eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch y mater pwysicaf un - sef Brexit - ac mae angen sicrhau na fydd yn cael effaith andwyol ar ddiwydiant sydd wedi bod yn rhan allweddol o economi Cymru ers blynyddoedd lawer. Yn y cyfamser, fodd bynnag, ni allwn orffwys ar ein rhwyfau ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod Cymru'n chwarae rhan lawn ac amlwg yn y gwaith o sicrhau diwydiant modurol y dyfodol."