Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd Cabinet Gogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates wedi croesawu cynlluniau gan Lywodraeth y DU i ddechrau'r broses o ddod â gwasanaethau rheilffyrdd i berchnogaeth gyhoeddus ym Mhrydain Fawr

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cynlluniau, a amlinellwyd yn Araith y Brenin yn cefnogi un o ofynion allweddol hirdymor Llywodraeth Cymru o gadw masnachfraint Cymru a'r Gororau yn y sector cyhoeddus. 

Bydd y newid deddfwriaethol hwn yn helpu i sicrhau sefyllfa Trafnidiaeth Cymru ac yn eu galluogi I wneud y mwyaf o fanteision integreiddio rheilffyrdd â mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig bysiau, drwy'r Bil Bysiau Cymru sydd ar ddod.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates:

Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddod â masnachfreinio rheilffyrdd i ben a dod â gwasanaethau rheilffyrdd yn ôl i'r sector cyhoeddus. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn galw amdano, ers amser maith, felly mae'n wych gweld hyn yn dechrau dod yn realiti o dan Lywodraeth Newydd y DU

 "Mae'r rheilffordd yn wasanaeth cyhoeddus sylfaenol sy'n perthyn i ni i gyd, a dylai fod yn y sector cyhoeddus yn hytrach nag yn nwylo cyfranddalwyr a buddsoddwyr preifat.

"Rydym eisoes yn dangos manteision cwmni rheilffyrdd sy'n eiddo i’r cyhoedd sy'n canolbwyntio ar gyflawni ar gyfer pobl, nid elw, gyda Trafnidiaeth Cymru bellach y cwmni mwyaf dibynadwy yng Nghymru.

"Rwyf eisoes wedi cyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Drafnidiaeth i nodi ein blaenoriaethau ar gyfer diwygio'r rheilffyrdd yng Nghymru a nawr bod gennym Lywodraeth y DU sydd eisiau gweithio gyda ni i gyflawni'r newid hwn, rwy'n hyderus y gallwn barhau i wella gwasanaethau i deithwyr rheilffyrdd ledled Cymru a'r Gororau.