Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwelliannau parhaus i’r A55 yn ‘hanfodol i economi Gogledd Cymru’, meddai Ken Skates Gweinidog yr Economi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gydag astudiaeth cydnerthedd yr A55 gan Lywodraeth Cymru ar y gweill, pwysleisiodd Mr Skates ei ymrwymiad i edrych o’r newydd ar yr holl opsiynau posibl  i wella amseroedd teithio, dibynadwyedd a chydnerthedd ar yr A55 a’r A494.

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

“Cafodd coridor yr A55/ A494 ei adeiladu ddegawdau yn ôl ac nid oedd erioed wedi’i gynllunio i ymdopi â dros 70,000 o gerbydau.  Yn ei gyflwr presennol, mae ymhell o fod y porth modern delfrydol i gefnogi pobl ac economi Gogledd Cymru.  

“Yn y blynyddoedd a’r misoedd diwethaf, rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi miloedd o bunnoedd i sicrhau bod y ffordd yn cyrraedd safonau modern.  O waith gwella i dwneli ac arwynebedd y ffordd, i brosiectau lliniaru llifogydd a chynnal a chadw, er mwyn sicrhau bod yr A55 yn perfformio cystal â phosib a’i bod yn flaenoriaeth pendant.  

“Bydd rhannau newydd o’r ffordd i ategu’r rhwydwaith presennol wrth gwrs yn rhan o’r gwelliannau yn y dyfodol, ac rydym yn gobeithio gweld Coridor Glannau Dyfrdwy er enghraifft, gwerth £200 miliwn, yn chwarae rhan sylweddol mewn seilwaith gwell.  Ochr yn ochr â hyn rwyf wedi dweud yn glir y dylid ac y gellir gwneud gwelliannau pellach pan yn bosibl fel bod modd inni sicrhau bod y ffordd hollbwysig hon yn perfformio cystal â phosib.  

“Dyna pam y bu imi gomisiynu astudiaeth gydnerthedd gynhwysfawr ym mis Ebrill i edrych beth rhagor y gellid ei wneud i wella amseroedd teithio, dibynadwyedd a chydnerthedd.  Mae’r astudiaeth honno bellach bron â’i chwblhau a’r bwriad yw i hynny ddigwydd yn yr Hydref.  

“Wedi imi dderbyn fy astudiaeth byddaf yn gweithredu ar fyrder i sefydlu rhaglen gynhwysfawr o waith i helpu mwy i ddarparu ffordd sy’n gwasanaethu y miloedd o ddefnyddwyr sy’n teithio arni bob dydd yn well, tra’n ceisio tarfu cyn lleied â phosib.

“Mae A55 gwell yn hollol hanfodol i economi ehangach y Gogledd ac yn rhywbeth y mae’n rhaid inni ei barhau i weithio arni i’w darparu cyn gynted ag y gallwn.”