Roedd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seiwaith ar Ynys Môn i agor dwy ran gyntaf Ffordd Gyswllt Llangefni yn swyddogol.
Mae’r prosiect gwerth £4 miliwn wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, Grŵp Llandrillo-Menai a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.
Bydd y ffordd gyswllt newydd yn caniatáu yr ehangu mawr i gampws Llangefni o Goleg Menai, Grŵp Llandrillo Menai, a pan fydd wedi’i gwblhau bydd yn mynd o gyffordd yr A5114 gydag Ystad Diwydiannol Llangefni, gan fynd o amgylch de a dwyrain y dref cyn croesi’r B5420 a chysylltu â safle Coleg Menai, gan liniaru’r traffig yng nghanol y dref.
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:
“Rwy’n falch iawn o agor dwy ran gyntaf y ffordd gyswllt hon, sy’n ganlyniad cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, Grŵp Llandrillo-Menai a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear er lles cymunedau lleol a’r diwydiant.
“Rwyf wedi datgan yn glir bod system drafnidiaeth gysylltiedig o safon uchel yn allweddol er mwyn sicrhau twf economaidd yng Ngogledd Cymru, ac mae’r ffordd gyswllt hon yn enghraifft wych. Bydd yn rhoi y cysylltiadau sydd eu hangen o ran y drafnidiaeth i sicrhau yr ehangu sylweddol i Goleg Menai yn Llangefni, gan olygu y bydd modd darparu yr addysg a’r hyfforddiant o safon uchel fydd yn caniatáu i bobl gael y swyddi a ddaw o ddatblygiadau newydd a’r twf economaidd yn yr ardal.
“Rhoddais amlinelliad yn ddiweddar o brosiectau seilwaith oedd yn werth dros £600 miliwn ledled Gogledd Cymru dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf wrth inni barhau i gydweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i ddarparu rhwydwaith drafnidiaeth integredig sy’n cysylltu cymunedau a busnesau â swyddi a gwasanaethau yn well, gan osod y sylfeini am Gymru mwy llewyrchus.”
Ychwanegodd Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Môn sy’n gyfrifol am y portffolio Prosiectau Mawr,
“Mae’r Ffordd Gyswllt yn enghraifft wych o sut y gall gwelliannau i’r seilwaith alluogi twf economaidd a bod yn gatalydd ar ei gyfer. Bydd y prosiect hwn yn caniatáu i Gampws Llangefni o Goleg Menai Grŵp Llandrillo Menai ehangu a chynnig ystod amrywiol o hyfforddiant a sgiliau sy’n gysylltiedig â datblygiadau arfaethedig mawr ym maes ynni ar yr ynys. Mae hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn ein hymdrechion i ddatblygu Llangefni a chyflawni ei photensial fel canolfan strategol ar gyfer gwaith ac addysg ar gyfer y rhanbarth yn ehangach.
“Mae’r datblygiad hwn yn ychwanegu gwerth ac yn ategu’r weledigaeth ar gyfer Ardal Fenter Ynys Môn a gweledigaeth y Rhaglen Ynys Ynni i greu canolfan o ragoriaeth o safon fyd-eang ar gyfer ynni carbon isel.”
Ychwanegodd Dafydd Evans, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai:
“Bydd y ffordd gyswllt newydd yn llawer o help i gefnogi datblygiadau sy’n gysylltiedig â’r Ynys Ynni. Datblygiadau a fydd yn eu tro yn dod â gwaith o safon y mae angen mawr amdano yn yr ardal.
“Mae gan Goleg Menai swyddogaeth allweddol o sicrhau bod gan y bobl leol, yn enwedig y rhai hynny sy’n hyfforddi ar gyfer y gweithle ar hyn o bryd, y sgiliau a’r profiad y maent eu hangen i gystadlu am swyddi o safon yn yr ardal. Mantais arall y ffordd newydd yw y bydd, wrth gwrs yn gwneud y Safle Peirianneg newydd ar ein campws yn Llangefni yn bosibl.”