Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffordd gyswllt yr A486 yng Ngheredigion, y gwariwyd £50 miliwn arni bellach ar agor yn swyddogol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wedi’i chynllunio gan Capita a’i hadeiladu gan Alun Griffiths (Contractors) Ltd, mae’r rhan olaf hwn o’r cynllun ehangach wedi golygu oddeutu 3km o adlinio’r ffordd, gan gynnwys ffordd unffrwd 7.3m o led a llwybr troed/beicio cyfun.  

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £43miliwn o gyllid ar gyfer y ffordd hon dros nifer o flynyddoedd ac mae digwyddiad heddiw yn nodi cwblhau’r gwaith hwnnw.  

“Mae’r llwybr yn cynnig cysylltiad allweddol o orllewin Cymru trwy Gaerfyrddin a choridor yr M4 – ac mae bellach o fudd i gymunedau yn Horeb, Croeslan, Ffostrasol, Capel Cynon, Post Bach, Synod Inn a Llandysul. Mae hefyd wedi trawsnewid y cysylltiadau i fusnesau, amaethyddiaeth, cymudwyr a thwristiaid, gan helpu i gefnogi’r economi ranbarthol.  Rydym wedi gweithio’n agos â Chyngor Ceredigion i ddarparu’r ffordd hon ac mae wedi bod yn dda i weld bod contractwyr o Gymru yn defnyddio cyflenwyr a chontractwyr lleol pan yn bosibl ar gyfer y prosiect hwn.  

“Rydym yn cydnabod nad dyma ddiwedd y daith a bod rhagor o gyfleon i wella y cysylltiadau trafnidiaeth i Geredigion.  Byddwn yn parhau i gynnal TrawsCymru a gwasanaethau allweddol eraill, ac ar yr un pryd yn ymrwymo yn yr hirdymor i archwilio’r opsiynau ar gyfer ail-agor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.   

“Dwi’n benderfynol o ddarparu rhwydwaith drafnidiaeth gynaliadwy sy’n cysylltu cymunedau a busnesau ledled Cymru â swyddi a gwasanaethau.  Mae’r ffordd hon yn rhan o’r weledigaeth honno ac mae’n wych clywed a gweld y gwahaniaeth y mae eisoes yn ei wneud i gynifer.”  

Meddai y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: 

“Dwi’n ddiolchgar iawn am gymorth Llywodraeth Cymru i gwblhau’r prosiect hwn.  Mae trigolion Ceredigion yn dibynnu ar yr  A486 fel cyswllt uniongyrchol â’r M4, ac rwy’n hyderus y bydd y gwaith gwella sylweddol i seilwaith y ffyrdd yn gwella cysylltiadau i fusnesau a thwristiaid er lles economi’r sir.”