Ken Skates AS Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Cynnwys

Cyfrifoldebau Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Cynnwys
Bywgraffiad
Cafodd Ken Skates ei eni ym 1976 yn Wrecsam. Cafodd ei addysg yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug, ac aeth ymlaen i astudio Gwyddor Gymdeithasol a Gwleidyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Yn ei amser rhydd, mae Ken yn mwynhau rhedeg, nofio, heicio, sgïo a chwarae golff. Mae ganddo hefyd ddiddordeb mewn garddio.
Gweithiodd Ken fel newyddiadurwr am gyfnod ac yna bu’n Gynorthwydd Personol i Aelod Seneddol cyn cael ei ethol i’r Senedd yn 2011 ar gyfer etholaeth De Clwyd.
Cafodd Ken ei benodi’n Ddirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg yn mis Mehefin 2013. Yna cafodd ei benodi'n Ddirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn 2014. Cafodd ei benodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ym mis Mai 2016 (rôl sydd nawr yn cael ei ddiffinio fel Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru).
Cyfrifoldebau
- Gweinidog y Gogledd a Chadeirydd Pwyllgor Sefydlog y Cabinet ar y Gogledd
- Darparu cymorth a chyngor i helpu busnesau i sefydlu, tyfu, neu ddatblygu
- Cefnogaeth ar gyfer Mewnfuddsoddi
- Entrepreneuriaeth, menter a gwybodaeth fusnes
- Banc Datblygu Cymru
- Banc Cymunedol
- Paneli Cynghori Economaidd
- Cyngor Datblygu'r Economi a’r Grŵp Strategaeth Partneriaeth Gymdeithasol
- Hyrwyddo Cymru fel lleoliad ar gyfer Busnes a Buddsoddi
- Bargeinion Dinesig Caerdydd, y Gogledd a Bae Abertawe
- Symleiddio ac integreiddio gwasanaethau sgiliau busnes a datblygu busnes
- Cydlynu mesurau trawsbynciol i hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi
- Rheoli asedau eiddo dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â datblygu economaidd
- Trafnidiaeth Cymru
- Polisi trafnidiaeth
- Ffyrdd, gan gynnwys adeiladu, gwella a chynnal y traffyrdd a'r cefnffyrdd
- Gwasanaethau trên drwy gyfrwng masnachfraint Cymru a'r Gororau
- Polisi ar borthladdoedd
- Polisi gyrfaoedd a noddi Careers Choices Dewis Gyrfa
- Polisi ar Brentisiaethau, a chyflenwi hynny
- Polisi ar gyflogadwyedd pobl ifanc ac oedolion, gan gynnwys Twf Swyddi Cymru, Sgiliau Hanfodol ar gyfer Oedolion mewn Gwaith a'r Porth Sgiliau, a chyflenwi'r rhaglenni hynny
- Darparwyr dysgu seiliedig ar waith
- Sgiliau sector, gan gynnwys strategaethau, cronfeydd datblygu a Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru
- Datblygu sgiliau'r gweithlu, gan gynnwys cyllid craidd Cronfa Ddysgu Undeb Cymru ar gyfer Cymru, gwasanaethau addysg a dysgu'r TUC
- Rhaglenni Ewropeaidd mewn perthynas â sgiliau a chyflogaeth, ac eithrio Cronfeydd Strwythurol yr UE
- Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
- Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
- Cynnal fframwaith rheoleiddio modern sy'n cefnogi arferion busnes cyfrifol, twf a chystadleurwydd
- Yr economi sylfaenol
- Swyddi Gwell yn Nes Adref
- Cyflog Byw
- Menter Gymdeithasol a'r economi gymdeithasol
- Economi gydweithredol
- Strategaeth a Pholisi Digidol Trawslywodraethol
- Seilwaith cysylltedd digidol, gan gynnwys Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus, band eang cyflym a'r rhwydwaith symudol
- Manteision Seilwaith Digidol a Deallusrwydd Artiffisial i Fusnesau
- Teithio llesol
- Diogelwch ar y ffyrdd; llwybrau mwy diogel i'r ysgol; cludiant ar gyfer plant a phobl ifanc; rheoleiddio croesfannau i gerddwyr a pharcio ar y stryd
- Rhaglen a Thasglu'r Cymoedd
- Prosiect y Cymoedd Technoleg
- Cyfathrebu Strategol