Ken Skates AC

Cyfrifoldebau Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Bywgraffiad

Cafodd Ken Skates ei eni yn Wrecsam ym 1976 a’i addysgu yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug. Aeth ymlaen i astudio Gwyddor Cymdeithasol a Gwleidyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Yn ei amser rhydd, mae’n mwynhau rhedeg, nofio, heicio a golff yn ogystal â’i ddiddordeb mewn garddio, celf a dylunio pensaernïol.

Arferai Ken fod yn newyddiadurwr ac roedd yn gynorthwyydd i Mark Tami AS.

Yn 2008, cafodd ei ethol yn gynghorydd cymuned. Mae diddordebau Ken yn cynnwys gweithgynhyrchu, iechyd meddwl, chwaraeon a hamdden, dileu tlodi ac economi wleidyddol. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys hyfforddiant sgiliau, twristiaeth, diogelu’r amgylchedd, iechyd meddwl, chwaraeon a ffitrwydd a chynhwysiant cymdeithasol.

Ym Mis Mehefin 2013, penodwyd Ken Skates yn Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Ym Mis Medi 2014, penodwyd Ken yn Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Ym mis Mai 2016 penodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith.

Penodwyd Ken yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar 3 Tachwedd 2017. Cafodd Ken ei ethol yn Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar 13 Rhagfyr 2018.

Cyfrifoldebau

  • Gweinidog y Gogledd a Chadeirydd Pwyllgor Sefydlog y Cabinet ar y Gogledd
  • Darparu cymorth a chyngor i helpu busnesau i sefydlu, tyfu, neu ddatblygu
  • Cefnogaeth ar gyfer Mewnfuddsoddi
  • Entrepreneuriaeth, menter a gwybodaeth fusnes
  • Banc Datblygu Cymru
  • Banc Cymunedol
  • Paneli Cynghori Economaidd
  • Cyngor Datblygu'r Economi a’r Grŵp Strategaeth Partneriaeth Gymdeithasol
  • Bargeinion Dinesig Caerdydd, y Gogledd a Bae Abertawe 
  • Symleiddio ac integreiddio gwasanaethau sgiliau busnes a datblygu busnes
  • Cydlynu mesurau trawsbynciol i hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi
  • Rheoli asedau eiddo dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â datblygu economaidd
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Polisi Trafnidiaeth
  • Ffyrdd, gan gynnwys adeiladu, gwella a chynnal y traffyrdd a'r cefnffyrdd
  • Gwasanaethau trên drwy gyfrwng masnachfraint Cymru a'r Gororau
  • Polisi ar borthladdoedd
  • Polisi Gyrfaoedd a noddi Careers Choices Dewis Gyrfa
  • Polisi ar Brentisiaethau, a chyflenwi hynny
  • Polisi ar gyflogadwyedd pobl ifanc ac oedolion, gan gynnwys Twf Swyddi Cymru, Sgiliau Hanfodol ar gyfer Oedolion mewn Gwaith a'r Porth Sgiliau, a chyflenwi'r rhaglenni hynny
  • Darparwyr dysgu seiliedig ar waith
  • Sgiliau sector, gan gynnwys strategaethau, cronfeydd datblygu a Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru 
  • Datblygu sgiliau'r gweithlu, gan gynnwys cyllid craidd Cronfa Ddysgu Undeb Cymru ar gyfer Cymru, gwasanaethau addysg a dysgu'r TUC
  • Rhaglenni Ewropeaidd mewn perthynas â sgiliau a chyflogaeth, ac eithrio Cronfeydd Strwythurol yr UE
  • Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
  • Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
  • Cynnal fframwaith rheoleiddio modern sy'n cefnogi arferion busnes cyfrifol, twf a chystadleurwydd. 
  • Yr economi sylfaenol 
  • Swyddi Gwell yn Nes Adref
  • Cyflog Byw
  • Menter Gymdeithasol a'r economi gymdeithasol
  • Economi gydweithredol
  • Seilwaith cysylltedd digidol, gan gynnwys Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus, band eang cyflym a'r rhwydwaith symudol
  • Manteision Seilwaith Digidol a Deallusrwydd Artiffisial i Fusnesau
  • Teithio llesol
  • Diogelwch ar y ffyrdd; llwybrau mwy diogel i'r ysgol; cludiant ar gyfer plant a phobl ifanc; rheoleiddio croesfannau i gerddwyr a pharcio ar y stryd 
  • Rhaglen a Thasglu'r Cymoedd
  • Prosiect y Cymoedd Technoleg
  • Cyfathrebu Strategol

Ysgrifennu at Ken Skates