Neidio i'r prif gynnwy
Ffotograff o Keith Towler

Keith Towler oedd cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.

Bu Keith yn Gomisiynydd Plant Cymru (2008 i 2015), ac yn ystod y cyfnod hwn cyhoeddodd nifer o adroddiadau, gan gynnwys ar eiriolaeth, amddiffyn plant, chwarae, masnachu mewn plant, gofalwyr ifanc, plant a phobl ifanc ag anableddau a phlant sy’n derbyn gofal.

Yn Ionawr 2018 fe’i penodwyd yn Aelod Cymru o Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr.

Ym Mawrth 2016 fe’i penodwyd am dymor tair blynedd fel Is-gadeirydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a sefydlwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am gynghori Llywodraeth Cymru ar ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, esgeuluso neu gael niwed.

Mae Keith yn aelod o Fwrdd Chwarae Cymru ac yn Noddwr Y Fenter yn Wrecsam a Chanolfan Windfall, Llandrindod.

Fel ail gomisiynydd plant Cymru, mae wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau yn cynnwys rhai ar eiriolaeth, amddiffyn plant, chwarae, masnachu mewn plant, gofalwyr ifanc, plant a phobl ifanc ag anableddau a phlant sy’n derbyn gofal.

Roedd Keith yn aelod o Weithgor y Gymdeithas Chwarae Ryngwladol y gofynnodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn iddo arwain y gwaith o ddrafftio’r Sylw Cyffredinol ar Erthygl 31. Mae hwn yn ffordd ddefnyddiol o atgoffa Partïon Gwladwriaethau ledled y byd o bwysigrwydd sicrhau hawliau plant i weithgareddau chwarae a hamdden, gorffwys a hamdden ac i gymryd rhan yn ddirwystr mewn gweithgareddau diwylliannol ac artistig.

Derbyniodd Gymrodoriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol De Cymru yn 2015 i gydnabod ei gyfraniad i waith cymdeithasol ac ieuenctid. Yn 2017, enillodd Wobr Arwain Cymru yng nghategori Arweinyddiaeth yn y Sector Gwirfoddol.