Neidio i'r prif gynnwy
Julie James AS

Cyfrifoldebau'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Cyfrifoldebau

  • Gweithgareddau Awdurdodau Lleol a chymdeithasau tai mewn perthynas â thai, gan gynnwys rheoli tai a dyrannu tai cymdeithasol a fforddiadwy
  • Cyflenwad ac ansawdd tai'r farchnad, tai cymdeithasol a thai fforddiadwy
  • Ail Gartrefi
  • Digartrefedd a chyngor ar dai
  • Materion yn ymwneud â thai a ddarperir gan y sector rhentu preifat a rheoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
  • Cymhorthion ac addasiadau, gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl a Grantiau Addasu Ffisegol
  • Rhoi cymorth yn ymwneud â thai (ond nid talu'r Budd-dal Tai)
  • Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol
  • Goruchwylio a gweithredu'r Deddfau Cynllunio a phob agwedd ar bolisi cynllunio a phenderfynu ar geisiadau cynllunio a elwir i mewn ac apeliadau
  • Lles cynllunio – Cytundebau Adran 106 sydd yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
  • Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol: penderfynu ar geisiadau cynllunio a chydsyniadau cysylltiedig
  • Rheoliadau adeiladu
  • Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn
  • Yr Is-adran Tir
  • Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040
  • Adfywio, gan gynnwys Ardaloedd Adfywio Strategol; adfywio etifeddol; Trawsnewid Canol Trefi a darparu safleoedd ac adeiladau, tir diffaith a gwelliannau amgylcheddol mewn perthynas ag adfywio
  • Diwygio Awdurdodau Lleol yn strwythurol, yn ddemocrataidd, yn ariannol ac yn gyfansoddiadol, gan gynnwys cydlynu modelau cyflawni rhanbarthol
  • Y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol
  • Materion yn ymwneud â pherfformiad, llywodraethiant a chyfansoddiad Llywodraeth Leol, trefniadau craffu, cabinetau, meiri etholedig, rôl cynghorwyr, eu hamrywiaeth, eu hymddygiad a'u tâl cydnabyddiaeth
  • Diogelwch tomenni glo
  • Parciau Cenedlaethol
  • Gwasanaethau Tân ac Achub gan gynnwys diogelwch tân cymunedol
  • Trefniadau etholiadol Llywodraeth Leol, noddi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ac amseriad etholiadau Awdurdodau Lleol
  • Polisi cyllid Llywodraeth Leol gan gynnwys diwygio ariannol
  • Rhoi cyllid heb ei neilltuo i Awdurdodau Lleol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu drwy setliadau refeniw a chyfalaf Llywodraeth Leol
  • Llywodraethiant ariannol, ariannu a chyfrifyddu mewn perthynas â Llywodraeth Leol
  • Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Llyfrgelloedd cyhoeddus
  • Gwasanaethau archifau lleol
  • Materion yn ymwneud â gweithlu Llywodraeth Leol
  • Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys Academi Wales

*Mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gyfrifol am bolisi, perfformiad, cyllid a llywodraethiant Llywodraeth Leol ond nid yw’n gyfrifol am swyddogaethau pob dydd Llywodraeth Leol a dylid cyfeirio cwestiynau ynghylch y swyddogaethau hynny at Lywodraeth Leol yn uniongyrchol.

Bywgraffiad

Ganed Julie James yn Abertawe ond treuliodd gryn dipyn o’i hieuenctid yn teithio o gwmpas y byd gyda’i theulu. Dechreuodd ar ei gyrfa yn Llundain ond symudodd yn ôl i Abertawe gyda’i gŵr i fagu eu tri phlentyn ac i fod yn nes at ei theulu. Mae Julie yn hollol ymrwymedig i faterion gwyrdd, yn frwd o blaid materion yn ymwneud â’r amgylchedd ac wrth ei bodd hefyd yn nofio ac yn sgïo.

Hyd nes iddi gael ei hethol yn Aelod o'r Senedd dros Orllewin Abertawe roedd Julie yn gyfreithwraig amgylcheddol a chyfansoddiadol flaenllaw. Cyn hynny, roedd yn brif weithredwr cynorthwyol Cyngor Abertawe. Treuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa fel cyfreithwraig ym maes llywodraeth leol gan weithio fel cyfreithwraig bolisi gyda Bwrdeistref Llundain Camden cyn dychwelyd i Abertawe i weithio i Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg ac yna Dinas a Sir Abertawe.

Ers iddi gael ei hethol mae Julie wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Menter a Busnes a Phwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Caffael y Pwyllgor Menter a Busnes, cyhoeddodd Julie Adroddiad y Pwyllgor sef ‘Influencing the Modernisation of EU Procurement Policy’. Roedd Julie hefyd yn Gadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Polisi Pysgodfeydd Cyffredin Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Penodwyd Julie James yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ym mis Medi 2014. Ym mis Mai 2016 penodwyd Julie yn Weinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Penodwyd Julie yn Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip ar 3 Tachwedd 2017. Ar 13 Rhagfyr 2018 cafodd ei phenodi yn Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Penodwyd hi yn Weinidog Newid Hinsawdd ar 13 Mai 2021, ac yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ar 21 Mawrth 2024.

Ysgrifennu at Julie James