Judith Paget CBE Judith Paget yw’r Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Phrif Weithredwr GIG Cymru.
Judith Paget yw’r Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.
Ymysg ei chyfrifoldebau mae:
- goruchwylio gwaith a pherfformiad y GIG yng Nghymru
- sicrhau bod proses gynllunio effeithiol yn y GIG
- rhoi Cymru Iachach, y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ar waith
- sicrhau cynnydd a chydweithio mewn perthynas â Ffyniant i Bawb a blaenoriaethau Prif Weinidog Cymru ar gyfer y llywodraet
- sicrhau bod y gwaith yn gael ei gyflawni o fewn y gyllideb a dangos gwelliant ym mherfformiad ariannol y GIG a’r system waelodol
- cefnogi cyfrifoldebau corfforaethol a chydweithio ar draws Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cefnogi’r peirianwaith llywodraethu a bod yn arweinydd amrywiaeth y Rhwydwaith Cefnogi Lleiafrifoedd Ethnig
- darparu arweinyddiaeth, cyfeiriad ac atebolrwydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol
-
cynrychioli’r grŵp fel rhan o’r Pwyllgor Gweithredol ar gyfer Llywodraeth Cymru