Jo Sims Aelod
Mae Jo wedi dal nifer o swyddi yn y gwasanaeth ieuenctid a'r sector ieuenctid dros gyfnod o dros 20 mlynedd ac ar hyn o bryd mae'n Rheolwr Gwasanaeth – Pobl Ifanc a Phartneriaethau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Ar ôl graddio o'r brifysgol, gweithiodd Jo yn Rwsia fel athrawes Saesneg, yna dychwelodd adref i wirfoddoli ac yna gweithio fel gweithiwr ieuenctid i Wasanaeth Ieuenctid Casnewydd, gan dreialu a datblygu gwaith ieuenctid mewn ysgolion a rhaglenni llythrennedd emosiynol a chan weithio fel gweithiwr ieuenctid datgysylltiedig ac wedi’i lleoli mewn canolfan. Yn ddiweddarach, bu'n gweithio fel Uwch Weithiwr Ieuenctid mewn prosiect ieuenctid yn y sector gwirfoddol yng nghanol Merthyr Tudful.
Datblygodd ddiddordeb mewn dull sy'n seiliedig ar hawliau yn ystod datblygiadau Ymestyn Hawl a datblygodd hyn ymhellach gyda'r Gymdeithas Blant, a chyda Tros Gynnal wedyn ac yn olaf gweithiodd gyda Chomisiynydd Plant Cymru fel Uwch Swyddog Cyfranogiad.
Am 11 mlynedd, bu Jo yn gweithio fel Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent, gan ddatblygu'r gwasanaeth i ddarparu ystod o raglenni gwaith ieuenctid mynediad agored ac wedi’u targedu, gan weithredu fel arweinydd strategol y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid a rhaglenni Ysbrydoli i bobl ifanc y Gronfa Gymdeithasol Ewrop yn Ne-ddwyrain Cymru.
Mae Jo yn cynrychioli Blaenau Gwent yn y Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid ac mae’n aelod o'r Pwyllgor Safonau Addysg, sy'n cymeradwyo rhaglenni Gwaith Ieuenctid a Chymunedol y Cydbwyllgor Negodi mewn Sefydliadau Addysg Uwch ledled Cymru. Mae Jo hefyd yn cadeirio Grŵp y Warant i Bobl Ifanc ar gyfer Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol y De Ddwyrain.