Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, yn ystod prif araith AMRC Cymru ym Mrychdyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles, wedi nodi'r blaenoriaethau y mae'n bwriadu mynd i'r afael a nhw ar unwaith er budd economi Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth nodi'r heriau a'r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth bontio teg tuag at economi wyrddach, pwysleisiwyd yn glir wrth y gynulleidfa busnes a sgiliau y manteision sylweddol a fyddai ynghlwm wrth chwarae rhan flaenllaw yn y pontio yma - manteision i'r gymuned fusnes yng Nghymru a hefyd i wasanaethau cyhoeddus a'r gymdeithas ehangach.  Bydd y camau a fydd yn cael eu cymryd ar unwaith yn cynnwys:

  • Sefydlu cyngor cenedlaethol ar gyfer yr economi, a fydd yn disodli'r Pwyllgor Cynghori Gweinidogol
  • Adolygiadau tro byr mewn pum maes allweddol, gan edrych ar ddarpariaeth ymarferol a gweithredadwy mewn meysydd fel sgiliau sero net, Deallusrwydd Artiffisial a chynyddu cyfleoedd twf ym maes ynni adnewyddadwy.  
  • Cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol lle bydd pob busnes yn cael gwahoddiad i rannu barn yn uniongyrchol gydag Ysgrifennydd y Cabinet
  • Datblygu dull cenedlaethol o gynllunio sgiliau'r dyfodol, a fydd yn berthnasol i bob sector o'r economi

Esboniodd Ysgrifennydd yr Economi:

"Rwyf bob amser wedi credu bod iechyd ein heconomi a'i gallu i gefnogi ein lles yn sylfaen allweddol i unrhyw beth y mae Llywodraeth flaengar yn ceisio ei chyflawni.

"Os oes gennym economi sy'n tyfu'n wirioneddol gynaliadwy, gan greuu ffyniant a mwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith sy'n talu'n well, ym mhob rhan o Gymru, yna mae gennym y cyfle gorau i sicrhau y gall pobl ffynnu. 

"Mae'r holl heriau eraill y mae unrhyw lywodraeth yn eu hwynebu - mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac addysgol, lliniaru tlodi, darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol a chefnogol, ac yn ein hachos ni - sicrhau cymunedau cryf ble gall y Gymraeg ffynnu - oll yn ddibynnol ar gyflwr ein heconomi a'r hyn mae'n ei wneud i gynyddu ffyniant a chydsefyll.

Ychwanegodd:

"Rydw i eisiau i Gymru fod yn fan lle mae pobl ifanc sydd â syniadau gwych eisiau cychwyn busnes, boed yn dod o Gymru, wedi dod yma i astudio neu wedi dewis dod i fyw yma oherwydd y croeso y byddan nhw'n ei gael, y gefnogaeth entrepreneuriaeth a mentora y gallant ddibynnu arno a'r ymdeimlad hwnnw o optimistiaeth a pherthyn sy'n rhan annatod o'n gwlad."

"Mae angen iddyn nhw wybod y gallan nhw lwyddo yng Nghymru - cenedl greadigol a llewyrchus lle mae pobl yn ffynnu. Dyna'r dyfodol economaidd rwy'n gwybod ein bod ni i gyd eisiau i Gymru."