Neidio i'r prif gynnwy

Gyda dim ond mis i fynd tan y dyddiad sydd wedi'i bennu ar gyfer Brexit, mae Jeremy Miles wedi pwyso ar Brif Weinidog y DU i cyfaddef nad oes ganddo siawns o gael Cytundeb Gadael drwy’r Senedd a gofyn am estyniad ar Brexit gan yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol gyhuddo Boris Johnson hefyd o ddefnyddio iaith anystyriol ac ecsbloetio'r rhaniadau o fewn Senedd y DU, ac o gynllwynio i ddod o hyd i ffordd o osgoi gofynion Deddf Benn.

Roedd Gweinidog Brexit yn siarad ychydig cyn dechrau wythnos o weithgarwch yng Nghymru a fydd yn rhoi sylw i Brexit.

Heddiw, bydd Gweinidogion yn gwneud cyfres o ddatganiadau ar senario 'dim cytundeb' yn y Cynulliad Cenedlaethol, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar ba mor barod yw pobl mewn gwahanol feysydd am Brexit heb gytundeb, gan gynnwys iechyd, busnes ac amaethyddiaeth.

Caiff uwchgynhadledd o gyfarfodydd i randdeiliaid eu cynnal ddydd Mercher a dydd Iau, a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn tynnu ynghyd gynrychiolwyr o lywodraeth leol, y gwasanaethau brys, byrddau iechyd ac eraill, er mwyn cwrdd â Gweinidogion i drafod pa mor barod y maen nhw ac i godi unrhyw bryderon.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, Jeremy Miles:

"Mae'r Prif Weinidog yn siarad am 'gau pen y mwdwl ar Brexit'. Nid dod allan o’r UE heb gytundeb ar 31 Hydref yw 'cau pen y mwdwl ar Brexit.

“Yr hyn sydd o'n blaenau yw blynyddoedd o negodi ar ein perthynas â'n partneriaid masnach pwysicaf; a'r cyfan ar sail drwgdybiaeth a drwgdeimlad. Ac yn y cyfamser, anhrefn.

"Mae'n bryd i'r Prif Weinidog roi’r gorau i ddweud celwydd wrth y wlad. Does ganddo ddim cyfle arall nawr, dim ond gofyn am estyniad a gadael i etholiad cyffredinol gael ei gynnal fel bod pobl y wlad yma’n gallu penderfynu yn y pen draw pwy maen nhw eisiau i’w harwain.  

"Mae Mr Johnson wedi ymddwyn yn anhygoel o anghyfrifol wrth ddod â ni i'r pwynt yma, ond bellach dydyn ni ddim yn disgwyl gwell o Brif Weinidog sy'n barod i chwarae ' n gyflym ac yn llac gyda ' n dyfodol.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rôl allweddol o ran arweinyddiaeth, gan weithio gyda'n ffrindiau a'n partneriaid ledled y wlad i sefydlu cynlluniau i liniaru effeithiau gwaethaf Brexit.

"Mae'r gwaith hwnnw wedi dwysáu wrth i fygythiad Brexit heb gytundeb gynyddu, fel y mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi'i gydnabod yr wythnos diwethaf. Dyma pam rydym wedi galw’r uwchgynhadledd yr wythnos hon, i sicrhau ein bod yn parhau i weithredu mewn ffordd gydlynol wrth baratoi ar gyfer dim cytundeb ac yn gallu ymateb mor effeithiol â phosib, gyda’n gilydd, pan fydd yr holl darfu yn digwydd, yn anochel.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau hefyd i egluro'r sefyllfa i'r cyhoedd, gan gyhoeddi ei gweledigaeth newydd ar gyfer Cymru o fewn yr UE. Mae ‘Dyfodol Mwy Disglair i Gymru’ yn trafod manylion y niwed posibl y gallai ymadael â’r UE heb gytundeb ei achosi ac mae’n cyflwyno’r achos dros barhau’n aelod o’r UE.