Neidio i'r prif gynnwy
Jen Heal

Mae Jen Heal yn aelod o Gomisiwn Trafnidiaeth De-orllewin Cymru.

Mae Jen yn ddylunydd ac yn gynllunydd trefol sydd â diddordeb arbennig mewn creu lleoedd yng nghanol trefi a chymdogaethau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes. Mae Jen yn cyd-gadeirio gwasanaeth adolygu dylunio cenedlaethol Comisiwn Dylunio Cymru. Mae’n arwain agenda creu lleoedd y Comisiwn Dylunio, gan gynghori ar bolisïau a llunio canllawiau. Mae Jen yn rhoi hyfforddiant i’r sector cyhoeddus a’r sector preifat ac yn cydlynu digwyddiadau, gan gynnwys cynhadledd o’r enw Lleoedd am Oes sy’n ystyried sut i greu cymunedau defnydd cymysg gwell sydd ag ymdeimlad o le. Mae’n arbenigo mewn mannau cyhoeddus a dylunio strydoedd, gwella ac adfywio cymdogaethau ac uwchgynllunio defnydd preswyl a chymysg. Mae ganddi amrywiaeth eang o brofiad o weithio gyda’r sector cyhoeddus a’r sector preifat a chymdeithasau tai i gyflawni strategaethau canol trefi, cynlluniau gwella’r amgylchedd a chysyniadau dylunio cyn dechrau yn ei rôl gyda’r Comisiwn Dylunio.

Mae’n credu bod gweithio gyda phobl yn hollbwysig er mwyn deall lle a datgloi sut y gellir ei wella ac felly bod ymgysylltu a chyfranogi yn allweddol i unrhyw brosiect. Mae ganddi brofiad helaeth iawn o ddefnyddio technegau ymgysylltu gwahanol ac mae hefyd yn rhoi hyfforddiant er mwyn helpu pobl i ddod i wybod a deall sut y gallant gymryd rhan yn y broses cynllunio a dylunio yn effeithiol.