Neidio i'r prif gynnwy
Jane Hutt AS

Cyfrifoldebau'r Trefnydd a'r Prif Chwip.

Cyfrifoldebau

  • Rheoli Busnes y Llywodraeth yn y Senedd yn unol â'r Rheolau Sefydlog
  • Cefnogi'r Prif Weinidog mewn perthynas â'r Cytundeb Cydweithio
  • Darparu'r Datganiad Busnes wythnosol
  • Cynrychioli'r Llywodraeth yn y Pwyllgor Busnes
  • Prif Chwip y Llywodraeth

Bywgraffiad

Treuliodd Jane rhan o'i phlentyndod yn Uganda a Kenya, a chafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Caint, Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Bryste. Mae hi wedi byw a gweithio yng Nghymru ers 1972.

Roedd Jane yn aelod etholedig o'r hen Gyngor Sir De Morgannwg am 12 mlynedd, a chafodd ei hethol i'r Cynulliad am y tro cyntaf ym 1999. Rhwng 1999 a 2005 hi oedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru. Rhwng 2005 a 2007, hi oedd Gweinidog Busnes y Cynulliad a'r Prif Chwip. Yng Nghabinet cyntaf y Trydydd Cynulliad fe'i penodwyd yn Weinidog y Gyllideb a Busnes y Cynulliad.

Yng Nghabinet y glymblaid, a gyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf 2007, hi oedd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Ym mis Rhagfyr 2009, fe'i penodwyd yn Weinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, ac yna yn Weinidog Cyllid tan 2016, pan gafodd ei phenodi yn Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip ar ddechrau'r Bumed Senedd.

Ar 13 Rhagfyr 2018, cafodd Jane ei phenodi yn Ddirprwy Weinidog ac yn Brif Chwip. Penodwyd hi yn Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar 13 Mai 2021. Yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2023, penodwyd Jane yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE). Ar 21 Mawrth 2024, penodwyd Jane yn Brif Chwip a’r Trefnydd.

Mae Jane Hutt yn gymrawd anrhydeddus Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Choleg Caerdydd a'r Fro. Mae hi'n dysgu Cymraeg.

Ysgrifennu at Jane Hutt