James Wright Prif Weithredwr Cwmni Cwrw Wrexham Lager
James Wright - Prif Weithredwr Cwmni Cwrw Wrexham Lager.
Mae gan James dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cwrw, gwin a gwirodydd. Mae'n gyfarwyddwr profiadol ym maes Datblygu Busnes a Strategaeth. Mae ganddo hanes o weithio yn y diwydiant diodydd ar draws gwahanol diriogaethau.
Mae James wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu brandiau fel:
- Red Bull
- Corona Extra
- Tsingtao Beer
- Lambs Rum
- Whitley Neill Gin,
- Crabbies Alcoholic Ginger Beer
Mae James wedi gweithio yn y DU a thramor. Mae wedi datblygu lefelau uchel o arbenigedd ym maes gwerthu, marchnata a gweithgynhyrchu. Mae wedi profi ei allu wrth reoli:
- busnesau sefydlog
- cyfuno a chaffael busnesau
- busnesau newydd
Yn 2017, gwelodd James gyfle i sefydlu'r ddistyllfa wisgi gyntaf yng ngogledd Cymru. Arweiniodd hyn at greu Distyllfa Aber Falls. Datblygodd strategaeth fusnes sydd wedi arwain at bortffolio o frandiau sydd wedi ennill gwobrau ar draws holl sianeli'r DU. Mae hyn bellach wedi ehangu i farchnadoedd rhyngwladol.
Addysgwyd James yn Ysgol Sedbergh. Enillodd Radd Anrhydedd mewn Pensaernïaeth Tirwedd o Brifysgol Fetropolitan Leeds.
Mae James a'i deulu yn byw yng Nghymru lle mae ei blant wedi cael eu magu.