Neidio i'r prif gynnwy

Cyfrifoldebau'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Cyfrifoldebau

  • Gweithredu'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus a'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
  • Cyflog Byw
  • Gwaith Teg
  • Gweithio o bell
  • Y Sector Creadigol, gan gynnwys Cymru Greadigol
  • Diwylliant a’r celfyddydau
  • Polisi darlledu a'r cyfryngau
  • Noddi Cyngor Celfyddydau Cymru, a'i gylch gwaith
  • Amgylchedd hanesyddol Cymru
  • Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru
  • Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
  • Amgueddfeydd a chasgliadau lleol
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Llyfrgelloedd cyhoeddus
  • Gwasanaethau archifau lleol
  • Datblygu Archif Genedlaethol Cymru
  • Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
  • Chwaraeon Elît
  • Chwaraeon cymunedol, gan gynnwys noddi Cyngor Chwaraeon Cymru
  • Polisi Gyrfaoedd a noddi Careers Choices Dewis Gyrfa (CCDG)
  • Polisi prentisiaethau, a chyflawni hynny
  • Polisi cyflogadwyedd a sgiliau Ieuenctid ac Oedolion, a chyflawni hynny
  • Darparwyr dysgu seiliedig ar waith
  • Datblygu sgiliau'r gweithlu
  • Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
  • Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol

Bywgraffiad

Yn 2018, yn 23 oed, Jack Sargeant oedd yr Aelod o'r Senedd ieuengaf erioed i gynrychioli'r etholaeth, Alun a Glannau Dyfrdwy.

Wedi'i eni a'i fagu yng Nghei Connah, mae gwleidyddiaeth Jack wedi cael ei dylanwadu gan ei gymuned a'i brofiad o wneud prentisiaeth mewn gweithgynhyrchu, cyn cwblhau gradd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam a gweithio fel peiriannydd datblygu yng Nglannau Dyfrdwy yn arbenigo mewn datrys problemau mewn prosesau gweithgynhyrchu.

Mae Jack yn eiriolwr angerddol dros iechyd meddwl ac yn hyrwyddwr ar gyfer gweithgynhyrchu a pheirianneg yng Nghymru, yn ogystal â chwaraeon a thai cymdeithasol.

Ail-etholwyd Jack i'r Chweched Senedd ym mis Mai 2021, a hyd at ei benodiad i'r Cabinet, fe wasanaethodd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a bu'n eistedd hefyd ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Penodwyd Jack yn Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ym mis Gorffennaf 2024 gan y Prif Weinidog ar y pryd, Vaughan Gething, yn dilyn ad-drefnu'r Cabinet.

Penodwyd Jack yn Weinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar 11 Medi 2024 gan y Prif Weinidog presennol, Eluned Morgan.

Ysgrifennu at Jack Sargeant